Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith moderneiddio ar y gweill yn Llyfrgell Pencoed

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch bod Ymddiriedolaeth Genedlaethol Awen wedi derbyn grant gan Lywodraeth Cymru i ad-drefnu a moderneiddio Llyfrgell Pencoed.

Mae'r elusen gofrestredig, sy’n rheoli gwasanaethau llyfrgell ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn darparu arian cyfatebol i osod paneli solar ar y to sy’n wynebu'r de, gan gyfrannu at greu adeilad mwy cynaliadwy.

Mae’r cynlluniau ar gyfer Llyfrgell Pencoed, a fydd yn cau yn ddiweddarach yn yr hydref ac yn ailagor yn gynnar yn 2023 ar gyfer ei phen-blwydd yn 50, yn cynnwys:

  • Diweddaru hen ddodrefn sefydlog gyda mwy o opsiynau symudol fel y gellir defnyddio’r gofod yn fwy hyblyg ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau.
  • Creu man gweithio/astudio i gefnogi’r rhai sy’n gweithio o bell neu'r rhai sydd angen mannau tawel i ganolbwyntio ar eu gwaith ysgol neu eu hastudiaethau.
  • Adeiladu ystafell gyfarfod gymunedol i grwpiau lleol a gwasanaethau cymorth ei defnyddio.

Mae'r grant hwn yn newyddion gwych i Bencoed a’r ardal gyfagos. Mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan hynod o bwysig yn ein cymunedau, ar gyfer pobl o bob oed a phob cefndir.

Bydd ein partneriaeth lwyddiannus gydag Awen yn ein helpu i greu mannau modern a fydd yn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen fwyaf ar bobl, fel mannau gweithio o bell, yn ogystal â mannau croesawgar i ddarllen, gweithio a chymdeithasu o fewn y gymuned leol.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

Chwilio A i Y