Gwaith i ddechrau ar siop fwyd newydd ym Mhorthcawl
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 22 Ebrill 2022
Cadarnhaodd Aldi y bydd gwaith paratoi ar y siop fwyd newydd yn Llyn Halen, Porthcawl yn dechrau ar 25 Ebrill 2022.
Bydd ffens dros dro yn cael ei gosod ar y ffin o amgylch y safle er mwyn sicrhau bod y siop yn cael ei hadeiladu’n ddiogel a chyda cyn lleied o anghyfleustra â phosib.
Trwy gydol y gwaith, bydd cyfleusterau parcio cyhoeddus yn parhau i fod ar gael yn Llyn Halen a Hillsboro Place, sydd union gyferbyn â’r safle adeiladu.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd wedi mynegi diddordeb mewn adeiladu maes parcio aml-lawr cwbl newydd gerllaw yn ystod camau cynlluniau adfywio Porthcawl yn y dyfodol.
Bydd y dyluniad ar gyfer y siop yn cynnwys motiff ‘ton’, ac yn defnyddio deunyddiau pren a chalch nodweddiadol i greu mynedfa nodedig i’r dref.
Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd y safle’n cael ei dirlunio’n helaeth a bydd yn cynnwys elfennau o gelf gyhoeddus. Bydd yno hefyd 114 o leoedd parcio, yn cynnwys pum lle parcio wedi’u penodi ar gyfer bathodynnau glas a saith lle parcio rhiant a phlentyn.
Yn ogystal, bydd pedwar man gwefru cerbyd trydanol ‘byw’, a darpariaeth ar gyfer 20 arall yn y datblygiad newydd.
Rhagwelir y bydd y siop Aldi newydd yn agor yn nhymor yr hydref 2023.
- Cadwch lygad allan am ddiweddariadau pellach wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.