Gwaith i ddechrau ar gyfleusterau cymunedol newydd £2.1m Cosy Corner, Porthcawl
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 18 Mawrth 2022
Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar gyfleusterau cymunedol newydd Cosy Corner ym Mhorthcawl yr haf hwn yn dilyn buddsoddiad o £2.1m.
Mae'r prosiect wedi ei gynllunio i gyfrannu ar raglen adfywio ehangach Porthcawl, drwy wella'r economi leol ar gyfer y gymuned a'r rhai sy'n ymweld â'r ardal. Mae'r prosiect ehangach yn cynnwys adfywio a datblygu marina newydd, amddiffynfeydd môr newydd, Adeilad Jennings a adferwyd yn ddiweddar, gwelliannau sydd i ddod i forglawdd y dwyrain a mwy.
Mae'r cynlluniau a gyflwynwyd yn cynnwys adeilad un llawr o gladin gwydr a charreg sy'n ymgorffori eiddo addas ar gyfer manwerthu a mentrau newydd, lle ar gyfer defnydd cymunedol, lle ar gyfer gwaith swyddfa Marina Porthcawl, cyfleuster newid cwbl hygyrch a thoiledau cyhoeddus.
Yn dilyn ymgynghoriad Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl, cadarnhawyd hefyd, yn ychwanegol i'r datblygiad newydd, fod awydd cryf gan drigolion i gael cryn dipyn o le agored wedi ei leoli o amgylch Llyn Halen, Canol y Dref, Marina a safle'r Promenâd Dwyreiniol i ddarparu lleoedd i bobl gyfarfod, ymlacio a chymryd rhan mewn gweithgareddau y gellir eu cefnogi â chaffis, hamdden, a chyfleusterau cymunedol.
Mae'r datblygiad hwn yn ymwneud yn llwyr â darparu adeilad hardd a chynaliadwy a fydd yn gaffaeliad gwirioneddol i’r gymuned leol ac a fydd yn cynnig rhywbeth gwahanol i ymwelwyr.
Ar yr un pryd, mae'r datblygiad yn ymwneud ag adlewyrchu cymeriad morwrol y safle a'r amgylchedd arfordirol o'i gwmpas.
Charles Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg ac Adfywio
Yn y gorffennol, mae'r cyngor wedi defnyddio arian o'r Rhaglen Cyrchfan Denu Twristiaeth i ddarparu'r Ganolfan Chwaraeon Dŵr gwerth £1.5m yn Rest Bay, adnewyddu'r adeilad ciosg ym Marina Porthcawl, a lansio gwefan Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr yn llwyddiannus, sy’n cynnwys adran am Borthcawl i arddangos y fwrdeistref sirol i breswylwyr ac ymwelwyr.
Disgwylir cwblhau'r cyfleusterau cymunedol newydd yn Cosy Corner erbyn Gwanwyn 2023.