Gwaith gosod arwyneb newydd ym Melin Ifan Ddu yn cael ei gwblhau ar ôl oedi
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 20 Ebrill 2022
Cafodd gwaith gosod arwyneb newydd ar briffordd ym Melin Ifan Ddu ei gwblhau yn dilyn oedi a achoswyd gan beiriant wedi torri mewn chwarel sy'n darparu tarmac.
Gwnaed y gwaith ddydd Iau 14 Ebrill gyda’r ffordd yn ail agor i’r cyhoedd am 5am fore Gwener.
Y bwriad oedd gorffen y gwaith ddydd Sul 10 Ebrill, ond cafodd ei ganslo gan fod peiriant gweithgynhyrchu wedi torri yn y chwarel, a chafodd y ffordd ei hail-agor gydag arwyneb dros dro.
Mae marciau ffordd newydd i fod i gael eu peintio yr wythnos hon ac mae arwyddion dros dro wedi eu gosod hyd nes bydd y llinellau wedi eu cwblhau.
Hoffem ddiolch i breswylwyr a gyrwyr am eu dealltwriaeth a’u hamynedd wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
Bydd rhagor o waith yn digwydd yn ystod y dyddiau nesaf i beintio marciau ffordd a bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cyn lleied â phosib o anghyfleustra i yrwyr.
Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau