Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith glanhau yn parhau ar ôl Storm Dennis

Mae timau priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (ddydd Llun, 17 Chwefror) yn bwrw ymlaen gyda'r gwaith o lanhau ar draws y sir ar ôl Storm Dennis.

Dros y penwythnos, gwnaethant weithio ddydd a nos i roi sylw i nifer o adeiladau yr oedd llifogydd wedi effeithio arnynt yng Nghwm Ogwr a Nant-y-moel, yn ogystal â llifogydd ar ffyrdd a choed wedi disgyn drwy'r fwrdeistref.

Yn Stryd Corbett, Cwm Ogwr, gwnaeth gweithwyr y cyngor ddefnyddio bagiau tywod o amgylch cartrefi wedi i geuffos orlifo oherwydd y glaw.

Mae ymchwiliadau i ddifrifoldeb y llifogydd mewn adeiladau ac i bennu achos y llifogydd yn parhau gan swyddogion o'r tîm rheoli llifogydd.

Effeithiodd llifogydd ar o leiaf un eiddo hefyd yn Commercial Street, Cwm Ogwr, a chafodd bagiau tywod eu dosbarthu i gartrefi ar hyd a lled yr ardal, gan gynnwys dau gartref yn John Street, Nant-y-moel.

Cafwyd mwy o broblemau gyda nifer o geuffosydd ym Mhen-coed, ym Min-y-nant a Greenacre Drive – gyda thimau'r priffyrdd yn gorfod eu clirio ben bore Sul.

Ar adeg waethaf y glaw, cafwyd llifogydd ar sawl ffordd gyda rhai'n cael eu cau nes i'r dŵr ymsuddo a nes i lanast y storm gael ei glirio.

Cafodd yr A4061 ym Mynydd y Bwlch ei chau ben bore Sul oherwydd bod dŵr yn llifo o'r mynydd gyda grym mor gryf fel ei fod yn gorlifo'r waliau a'r draeniau.

Gwnaeth staff y cyngor lanhau'r ardal, gan ailagor y ffordd i Rondda Cynon Taf ond gan adael y rhan o'r ffordd i Gastell-nedd Port Talbot ar gau, wrth i Gyngor Castell-nedd Port Talbot lanhau llanast y storm ar eu hochr nhw.

Ar brynhawn Sul, ail-agorwyd Heol Maesteg (yr A4063) ar ôl i goeden gael ei symud.

Mae'r ffordd rhwng Court Colman Manor a Phen-y-fai yn parhau i fod ar gau oherwydd bod coed yn pwyso ar geblau BT – mae gwaith cynlluniedig parhaus yn cael ei wneud gan BT yn yr ardal, a bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda nhw i ddatrys y broblem ac ailagor y ffyrdd cyn gynted â phosib.

Gwnaeth ein timau weithio'n ddiflino a gwneud gwaith gwych dros y penwythnos.

Gwnaeth synwyryddion ceuffosydd seinio mewn sawl lleoliad drwy gydol nos Sadwrn a gwnaeth y tîm eu glanhau'n gyflym iawn er mwyn osgoi mwy o lifogydd. Mae ein swyddogion yn galw heibio i'r holl adeiladau y gwnaeth llifogydd effeithio arnynt heddiw ac yn casglu manylion ar ddifrifoldeb y difrod ac yn nodi'r achosion.

Mae llawer o ddŵr a gweddillion ar y ffyrdd o hyd, yn enwedig lle'r oedd dŵr yn llifo o'r tir gerllaw. Mae'r staff yn defnyddio peiriannau i lanhau wrth iddyn nhw glywed am unrhyw broblemau. Maent hefyd yn gweithio i glirio draeniau sydd wedi'u rhwystro mor gyflym â phosib.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David

Chwilio A i Y