Gwaith clirio ar ôl i stormydd Eunice a Franklin effeithio ar y fwrdeistref sirol
Poster information
Posted on: Dydd Llun 21 Chwefror 2022
Mynychodd griwiau o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr nifer o gannoedd o ddigwyddiadau o geuffosydd wedi’u blocio, llifogydd, coed wedi cwympo, canghennau wedi torri, ffyrdd wedi’u rhwystro, strwythurau wedi’u difrodi, toeau wedi’u difrodi a materion eraill ar ôl i’r fwrdeistref sirol brofi stormydd Eunice a Franklin un ar ôl y llall dros y penwythnos.
Gyda’r holl rybuddion tywydd bellach wedi codi, mae gwaith wedi dechrau ar glirio unrhyw ddifrod ar ôl y stormydd. Yn Warwick Close ym Mhorthcawl, mae canghennau wedi'u rhwygo yn cael eu torri i lawr a'u symud fel y gellir ailagor y llwybr cerdded, tra bod malurion coed wedi cwympo yn cael eu clirio yn Green Acre a Heol Fawr yng Nghorneli.
Ar hyd yr A4064 rhwng Brynmenyn a Llangeinor, mae craeniau’n cael eu defnyddio i symud canghennau sydd wedi’u rhwygo a malurion sydd wedi cwympo, ac mae ceuffosydd yn cael eu clirio ar hyd y troadau ‘twll clo’ ffordd fynydd Bwlch yr A4061.
Mae arwyddion ffiniau sydd wedi’u difrodi’n cael eu symud ar Bont Wen yr A4093 ger Glynogwr, ac mae gwiriadau ar y gweill i weld a oes modd symud malurion sydd wedi casglu o fwâu’r Bont Drochi ar Ffordd New Inn.
Mae unrhyw sbwriel sy'n weddill ar ôl y storm a achosir gan donnau a llanw uchel yn cael ei glirio, ac mae bagiau tywod yn cael eu casglu o eiddo lle cawsant eu gosod fel mesur paratoadol.
Profodd nifer o adeiladau ddifrod i'w toeau yn ystod y stormydd, gan gynnwys Canolfan Gymunedol Evanstown, Gwesty Porthcawl yn Stryd John, safleoedd masnachol yn Heol y Frenhines yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, a chartrefi mewn ardaloedd fel Ffordd Ffald yn y Pîl.
Wrth weithio ochr yn ochr â Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, cafodd sawl ffordd eu cau dros dro er mwyn helpu i ddiogelu pobl, gan gynnwys ar Heol y Frenhines ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Stryd John a Heol Lias ym Mhorthcawl.
Er y bydd Heol y Frenhines a Heol Lias yn ailagor yn ddiweddarach heddiw, bydd Stryd John yn parhau wedi cau hyd nes y clywir yn wahanol er mwyn caniatáu i archwiliadau gael eu cwblhau ar adeiladau.
Ym Maesteg, cafodd yr A4063 ei gau dros dro ar ôl i goeden gwympo ar geblau pŵer a’u dymchwel. Mynychodd Heddlu De Cymru ac Western Power yr olygfa a sicrhawyd y gellir ei hailagor yn ddiogel.
Cafodd ffordd fynydd Bwlch yr A4061 ei chau dros dro, ond mae wedi ailagor ers hynny. Cyn i’r storm gyrraedd, paratowyd 3,500 o fagiau tywod, a danfonwyd y rhain gan y criwiau er mwyn helpu i ddiogelu eiddo a chartrefi lleol ledled y fwrdeistref sirol. Cafodd tua 800 eu defnyddio yn Beach Road a West Drive ym Mhorthcawl i atal dŵr stormydd rhag gorlifo dros amddiffynfeydd môr a chyrraedd tai.
Gan nad oedd modd cynnal casgliadau ailgylchu a gwastraff ddydd Gwener, mae trigolion wedi’u cynghori i storio eu deunydd ailgylchu tan y diwrnod casglu nesaf. Mae Kier wedi egluro y byddant yn casglu bagiau cario agored yn llawn deunyddiau ychwanegol os oes gan aelwydydd lawer o sbwriel i'w roi allan.
Gyda chanolfannau ailgylchu cymunedol bellach wedi ailagor, mae Kier hefyd wedi cadarnhau y bydd unrhyw fagiau sbwriel neu gynnyrch hylendid amsugnol nad oeddynt wedi’u casglu ddydd Gwener yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 26 Chwefror er mwyn sicrhau nad oes rhaid i drigolion ddisgwyl pythefnos arall rhwng casgliadau.
Aeth amserlenni casglu yn ôl i’r drefn arferol fore dydd Llun yn ardal Maesteg, lle mae timau glanhau’r strydoedd wedi bod wrthi’n mynd i’r afael â sbwriel ar y ffyrdd yn ystod y gwyntoedd cryfion yn ystod oriau olaf Storm Franklin.
Mae llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a chanolfannau dydd ar gyfer oedolion hefyd wedi ailagor.
Mae stormydd Eunice a Franklin wedi gadael eu marc ledled y DU, ac rwy’n ddiolchgar i’n gweithwyr yn y cyngor a’r gwasanaethau brys am eu holl waith yn cyfyngu ar raddfa’r trafferthion yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Er bod y rhan fwyaf ohonom yn ddiogel yn ein cartrefi, roedd gweithwyr y cyngor wedi wynebu'r tywydd garw unwaith eto er mwyn cefnogi cymunedau lleol ac i ddiogelu pobl ac eiddo.
Maen nhw'n dal i fod wrthi nawr, yn clirio'r difrod ac yn ceisio codi’r fwrdeistref sirol yn ôl ar ei thraed, ac rwy’n gwybod fy mod yn siarad ar ran pawb pan ddywedaf fod eu hymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
Ychwanegodd y Cynghorydd Stuart Baldwin, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau