Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith celf o ddyn Lego'n teyrnged i ferch ysgol arbennig

Mae'r arlunydd stryd dirgel, y 'dyn Lego', wedi ymddangos eto yn ne Cymru, a'r tro hwn â theyrnged liwgar i gefnogi cenhadaeth merch ysgol o Ben-y-bont ar Ogwr i godi ymwybyddiaeth gadarnhaol o Syndrom Down.

Cafodd Hollie Evans, sy’n un ar ddeg mlwydd oed, ei syfrdanu gan y graffiti annisgwyl a gafodd ei greu yn Ysgol Gynradd Llidiard y penwythnos diwethaf gan yr arlunydd Ame72.

Mae ffigwr Lego â balŵn siâp calon wedi'i beintio ar un o waliau'r ysgol a gadawodd yr arlunydd dirgel gynfas wedi'i bersonoli, yn arbennig i Hollie.

Mae gwaith gan yr artist rhyngwladol Ame72 – James Ame yw ei enw go iawn – yn werth miloedd, ac mae tri o’i ddarnau o waith wedi ymddangos yn ddiweddar ym Mhort Talbot i ymuno â gwaith graffiti enwog Banksy yn y dref. 

Ar Ddiwrnod Syndrom Down y Byd (21 Mawrth), bydd Hollie'n cymryd rhan yn fideo’r ymgyrch ‘Wouldn't Change a Thing’ sy’n ceisio cyrraedd ledled y byd er mwyn rhoi terfyn ar safbwyntiau hen ffasiwn o'r cyflwr geneteg.

Hefyd yn ddiweddar, ymunodd hi â phlant eraill sydd â Syndrom Down a'u teuluoedd i eistedd wrth ymyl Philip Schofield a Holly Willoughby ar soffa enwog This Morning er mwyn siarad am yr ymgyrch.

Yn naturiol, mae ei mam Hayley yn eithriadol o falch, a dywedodd: "Mae Hollie yn seren fach wirioneddol. Cysylltais i ag Ame72 drwy'r cyfryngau cymdeithasol i sôn ychydig wrtho am Hollie a pha mor wych mae ei hysgol wedi bod drwy roi cymorth i Hollie â phopeth mae hi'n ei wneud. Cefais ymateb ganddo yn dweud ei fod wedi’i ysbrydoli i wneud rhywbeth ac roeddwn i wrth fy modd pan welais i ei gelfwaith. Mae Hollie wedi'i gwirioni!

“Dyma flwyddyn olaf Hollie yn Ysgol Gynradd Llidiard ac mae caredigrwydd pawb yn yr ysgol wedi dylanwadu'n fawr ar Hollie felly bydd yn ddiwrnod emosiynol pan fydd hi'n gadael. Mae'n braf gwybod y bydd y celfwaith hwn yn parhau yn yr ysgol fel atgof arbennig o'i chyfnod yno."

Yn ogystal â helpu i godi ymwybyddiaeth o sut mae pobl â Syndrom Down yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, mae Hollie hefyd yn cyfrannu'n rhyfeddol at elusennau.

Pan oedd hi'n iau, cafodd Hollie ganser, a phan gafodd wybod ei bod yn glir yn 2014, roedd hi a'i theulu'n benderfynol o wneud rhywbeth ar gyfer pobl eraill sy’n dioddef o ganser ac felly, penderfynodd Hollie dorri 18 modfedd o'i gwallt a rhoi'r arian a gododd i'r Little Princess Trust.

Ers rhai blynyddoedd bellach, mae Hollie a'i chwaer Poppie wedi casglu cannoedd o wyau Pasg y maent yn eu rhoi i blant sâl yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Plant Cymru Arch Noa, lle treuliodd Hollie chwe mis yn cael triniaeth cemotherapi llafurus.

Yn ogystal â chael darn o gelfwaith unigryw yn arbennig ar ei chyfer, bydd caredigrwydd Hollie hefyd yn cael ei gydnabod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pan fydd hi'n derbyn Gwobr Dinasyddiaeth y Maer ddydd Gwener 22 Mawrth.

Bydd Hollie'n ymuno â dwsinau o ddinasyddion rhagorol eraill a fydd yn cael eu gwobrwyo am eu cyfraniad anhygoel i'r gymuned leol. Gallwch ddilyn Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer ar dudalennau Twitter a Facebook Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a bydd manylion llawn yn cael eu rhannu ar Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr

Chwilio A i Y