Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith cadwraeth mawr ar y gweill yng Nghastell Coety

Mae arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesawu'r gwaith cadwraeth mawr a fydd yn cael ei gynnal yng Nghastell Coety y gwanwyn hwn.

Mae'r castell, a gynhelir gan Cadw, yn destun rhaglen tair blynedd o waith adfer sy’n defnyddio deunyddiau a thechnegau adeiladu traddodiadol.

Bydd y prosiect yn cynnwys ail-bwyntio, gwaith i ategu’r waliau a mân waith i ailadeiladu rhan o’r gwaith cerrig.

Yn ystod y broses, bydd cofnodion manwl yn cael eu gwneud cyn, yn ystod, ac ar ôl y gwaith er mwyn helpu Cadw i gael y ddealltwriaeth orau posibl o hanes y castell a sut y datblygodd dros amser.

Mae Castell Coety wedi bodoli ers mwy na 900 mlynedd, ac rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn darparu gwaith cadwraeth hanfodol i’w helpu i fodoli am nifer mwy o ganrifoedd i ddod. Mae ganddo hanes hudolus ac mae'n un o'r gemau yng nghoron hanes Cymru.

Un o'r 12 marchog o Forgannwg a helpodd i adeiladu'r castell a chafodd ei roi dan warchae gan Owain Glyndŵr yn ystod y 1400au cynnar, felly mae wedi goroesi cryn amser. Rydym yn gyffrous iawn am y buddsoddiad hwn, a fydd yn sicrhau ei ddyfodol ar gyfer y cenhedloedd sydd i ddod.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David

Bydd gwaith ar y prosiect cadwraeth yn dechrau’r mis hwn (Chwefror).

Mae'n rhan o fuddsoddiad gwerth £4.25 miliwn gan Lywodraeth Cymru i’r gwaith o gadw a datblygu safleoedd o dan ofal Cadw yn ystod 2020/21.

Bydd gerddi'r castell yn parhau ar agor i'r cyhoedd drwy gydol y gwaith, ond ni fydd modd cael mynediad i brif ran y castell rhwng mis Mawrth 2020 a diwedd y flwyddyn.

Mae gwybodaeth fanwl am gyfyngiadau ar gael ar wefan Cadw.

Bydd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu yn cael eu cynnal, gyda'r nod o sicrhau bod y pentref ehangach yn cymryd rhan lawn yn y gwaith cadwraeth ar y castell.

John Weaver Contractors Ltd, sydd wedi'i leoli yn Abertawe, yw'r cwmni sydd wedi cael y contract am y gwaith.

Chwilio A i Y