Gwaith ar y gweill ar raglen sylweddol gwella ffyrdd
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 16 Mehefin 2021
Mae gwelliannau ffyrdd sylweddol ar y gweill ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o fuddsoddiad £2.7m yn y rhwydwaith priffyrdd lleol.
Mae gwaith ar 40 o ffyrdd lleol yn cael ei wneud gyda gwaith ail-arwynebu eisoes wedi’i wneud ar:
Gordon Avenue/Highfield Avenue, Porthcawl
West Road, Porthcawl
Carlton Place, Porthcawl
Cheltenham Road, Nottage
North Street, Caerau,
Fron Heulog, Cefn Glas
Coegnant Close, Ystad Ddiwydiannol Bracla
Disgwylir i’r gwaith ddechrau wythnos nesaf ar Ffordd Maesteg A4063 yn Tondu gyda gwaith paratoi ar y gweill yn gyntaf ac yna ail-arwynebu yn cychwyn ddechrau mis Gorffennaf.
Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, bydd gwaith ail-arwynebu hefyd yn cael ei wneud ar y ffyrdd canlynol:
Haul Bryn/Dan Y Bryn/Blandy Terrace, Nantymoel
Heol Bracla - (O Church Acre i Hunters Ridge)
Cae Bach, Llangeinor
A4064 Oxford Street , Pontycymmer
Yn y cyfamser, mae gwaith paratoi ar gyfer trin arwyneb sy’n helpu i warchod ac ymestyn oes ffyrdd yn digwydd ar hyn o bryd ar A4064 Llangeinor a Greenmeadow Lane yn Shwt.
Mae gwaith atgyweirio ac ail-arwynebu pellach mewn rhannau eraill o’r fwrdeistref sirol hefyd wedi’i gynllunio’n ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad parhaus o filiynau o bunnoedd yn y rhwydwaith priffyrdd i wneud gwelliannau i gymunedau ledled y fwrdeistref sirol.
Gwneir pob ymdrech i gyfyngu ar aflonyddwch wrth i waith gwella priffyrdd gael ei wneud, fodd bynnag, o ystyried maint y gwaith, mae'n anochel y bydd rhywfaint o aflonyddwch ac ymddiheurwn ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra.
Gallwch fod yn sicr y gwneir pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl gyda gwaith ffordd sylweddol yn digwydd o amgylch oriau hynod o brysur ond gofynnwn i yrwyr am eu dealltwriaeth a’u hamynedd tra bo’r gwaith yn parhau.
Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau, y Cynghorydd Stuart Baldwin