Gwaith ail-wynebu yn mynd rhagddo ar Ffordd Llangrallo
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 27 Gorffennaf 2021
Mae rhannau o'r ffordd wedi cau ar hyd Ffordd Llangrallo, Bracla, wrth i waith ail-wynebu fynd rhagddo.
Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau mewn dau gam ac mae'n rhan o raglen gwella priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ynghlwm â'r rhaglen, mae ffyrdd ar draws y fwrdeistref sirol yn cael eu hail-wynebu, eu hatgyweirio a'u gwella fel rhan o fuddsoddiad gwerth £2.7m yn y rhwydwaith priffyrdd lleol eleni.
Disgwylir i'r gwaith ail-wynebu a ddechreuodd ar Ffordd Llangrallo, Bracla, ddydd Llun 26 Gorffennaf barhau hyd at ddydd Llun 2 Awst, yn ddibynnol ar y tywydd. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal rhwng 8am a 4pm, dydd Llun i Gwener.
Mae'r gwaith hwn wedi'i rannu'n ddwy ran:
- Ffordd Llangrallo o'i chyffordd Erw Hir tua'r gorllewin i gyffordd Heol Bracla, (Cylchfan Haywain).
A:
- Ffordd Llangrallo o'i chyffordd Heol Simonston tua'r gorllewin i gyffordd Erw Hir, Bracla.
Mae gwyriadau wedi'u rhoi ar waith i yrwyr, a gall cerddwyr a cherbydau brys barhau i gael mynediad.
Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod ein priffyrdd yn cael eu cynnal i safon uchel ar draws y fwrdeistref sirol. Rydym yn gwneud gwaith ar 40 ffordd leol fel rhan o'n rhaglen gwella priffyrdd.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosibl, ond o ystyried natur y gwaith, mae peth anghyfleustra yn anorfod.
Gofynnwn i yrwyr fod yn amyneddgar wrth i'r gwaith hwn gael ei gwblhau.
Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau