Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith ail-wynebu wedi’i gynllunio rhwng Cylchfan Waterton a Phencadlys yr Heddlu

Bydd gwaith ail-wynebu hanfodol yn cael ei gynnal dros y pythefnos nesaf ar ran o Heol y Bont Faen ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel rhan o raglen barhaus o welliannau ffordd a theithio llesol yn y fwrdeistref sirol.

O heno ymlaen (dydd Llun 1 Tachwedd), am gyfnod o bythefnos, bydd y ffordd rhwng Cylchfan Waterton a chyffordd Pencadlys Heddlu De Cymru, gyferbyn â Tesco, yn cau dros nos rhwng 7pm a 5am. Bydd cau’r ffordd hefyd yn effeithio ar Gyffordd York Road Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd gwyriadau ar waith, gyda’r llwybr yn mynd drwy Barc Manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr. Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio i ddisgwyl oedi.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o’r llwybr teithio llesol ehangach o Ben-y-bont ar Ogwr i Bencoed. Bydd y llwybr yn helpu i leihau tagfeydd a llygredd yn y fwrdeistref sirol wrth wneud cerdded a beicio’n fwy diogel ac yn fwy hygyrch.

Rydym yn ymddiheuro am yr amhariad dros dro y bydd y gwaith hwn yn ei achosi i yrwyr. Gofynnwn i yrwyr beidio â rhwystro unrhyw gyffyrdd a reolir gan signalau.

Bydd gwaith yn cael ei gynnal yn ystod oriau llai prysur er mwyn lleihau’r amhariad, a bydd llwybrau amgen wedi’u cynllunio’n ofalus ar waith. Gofynnwn i yrwyr am eu dealltwriaeth ac amynedd wrth i ni gwblhau’r gwaith.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Gymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Stuart Baldwin

Chwilio A i Y