Gwaith ail-wynebu ar y gweill ar Heol Maesteg yn Nhondu
Poster information
Posted on: Dydd Iau 28 Hydref 2021
Mae gwaith ail-wynebu hanfodol ar A4063 Heol Maesteg yn Nhondu ar fin dechrau’r wythnos nesaf, gyda gyrwyr yn cael eu rhybuddio bod oedi’n debygol.
Mae'r gwaith yn rhan o raglen gwella priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda gwaith ail-wynebu, atgyweirio a gwella ffyrdd yn cael ei wneud ledled y fwrdeistref sirol fel rhan o fuddsoddiad gwerth £2.7m yn y rhwydwaith priffyrdd lleol eleni.
Mae disgwyl i waith ar ddarn o’r ffordd rhwng cyffyrdd Cross Street a Heol Derllwyn ddechrau ar ddydd Mawrth 2 Tachwedd, a disgwylir i’r gwaith orffen o fewn pythefnos, yn amodol ar y tywydd.
Er y bydd ychydig o'r gwaith yn cael ei wneud rhwng 7pm a hanner nos, er mwyn cynnal mynediad at fusnesau cyn belled ag y bo modd, disgwylir i'r rhan fwyaf o’r gwaith gael ei wneud rhwng dydd Llun a dydd Gwener, rhwng 9.30am a 3.30pm.
Fel rhan o’n buddsoddiad parhaus i’r rhwydwaith priffyrdd, mae’r darn hwn o Heol Maesteg yn Nhondu yn cael ei ail-wynebu.
Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra dros dro y bydd hyn yn ei achosi i yrwyr, oherwydd, er mwyn galluogi i’r gwaith ddigwydd gosodir signalau, gyda thraffig yn cael ei gyfyngu i un lôn. Er mwyn cyfyngu ar aflonyddwch cymaint â phosibl, bydd y gwaith gwella priffyrdd yn digwydd yn ystod oriau llai prysur. Gofynnwn i yrwyr am eu dealltwriaeth ac amynedd wrth i ni gwblhau’r gwaith.
Dywedodd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet y cyngor dros Gymunedau