Gwaith adfer yn cychwyn ar Ganolfan Chwaraeon Dŵr yn dilyn Storm Francis
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 26 Awst 2020
Mae gwaith adnewyddu ar fin cychwyn heddiw (dydd Mercher 26 Awst) ar do'r Ganolfan Chwaraeon Dŵr yn Rest Bay, Porthcawl, yn dilyn gwyntoedd cryfion Storm Francis.
Oherwydd y difrod a wnaed i'r to, yn cynnwys yr ysgol syrffio a chaffi, caewyd y ganolfan dros dro.
Mae atalfeydd dros dro wedi'u gosod i atal y cyhoedd rhag cael mynediad i'r ardal, rhag ofn i unrhyw weddillion ddod yn rhydd oddi wrth yr adeilad.
Roedd y gwasanaeth tân ar y safle ddoe, a bu iddynt gnocio ar ddrysau preswylwyr lleol i'w hysbysu am y sefyllfa. Hefyd, bu i dîm o'n hadran briffyrdd aros ar y safle drwy'r nos i sicrhau bod yr ardal yn ddiogel.
Bu i gontractwyr ymweld â'r safle ddoe, a threfnu craen bach i symud y panel a gwneud yr adeilad yn ddiogel heddiw. Rydym yn gobeithio ail agor yr adeilad cyn gynted ag y bydd hi'n ddiogel i wneud hynny.
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David