Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwahoddiad i’r cyhoedd ‘sefyll gyda’i gilydd’ i nodi’r Holocost

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Choleg Penybont, yn gwahodd preswylwyr i ddod i ddigwyddiad am ddim i gofio dioddefwyr yr Holocost a’r hil-laddiadau dilynol, ac i anrhydeddu'r goroeswyr.


Bydd y digwyddiad, a gynhelir ddydd Mawrth 21 Ionawr am 10.30am yn Theatr Sony, Coleg Penybont, yn archwilio’r thema ar gyfer 2020, sef ‘Sefyll Gyda’n Gilydd’. Bydd yn edrych ar sut mae cyfundrefnau hil-laddiad drwy hanes wedi mynd ati’n fwriadol i chwalu cymdeithasau drwy ymylu rhai grwpiau. Nod y thema yw annog y rheini sy’n dod i'r digwyddiad i sefyll gyda’u ffrindiau, eu cydweithwyr a’u cymdogion i godi eu llais yn erbyn gorthrwm.


Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu gwestai arbennig, Diudonne Ganza Gahizi, un o oroeswyr Hil-laddiad 1994 yn erbyn y Tutsi yn Rwanda.


Bydd Ganza, gwneuthurwr ffilmiau a sylfaenydd ‘Best Hope Rwanda’, elusen ar gyfer goroeswyr hil-laddiad, yn siarad am ei brofiadau personol o hil-laddiad ac effaith colli mwy na 50 aelod o’i deulu.


Er gwaethaf yr hyn sydd wedi digwydd iddo, mae Diudonne Gahizi-Ganza yn cyflwyno neges o heddwch, gobaith a maddeuant. Mae nawr yn canolbwyntio ar gynnig cwnsela i ddioddefwyr eraill a chefnogi pobl y mae HIV/AIDS yn effeithio arnynt, a’r rheini sy’n aml yn wynebu stigma a chamwahaniaethu neu’n cael eu gadael.


Yn unol â thraddodiad, bydd y saith datganiad o ymrwymiad yn cael eu darllen gan aelodau allweddol o’r cyhoedd yn ystod y digwyddiad, a bydd cannwyll goffa yn cael ei thanio gan Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Stuart Baldwin.


Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cerddoriaeth a sesiwn fyfyrio, gyda myfyrwyr Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal y seremoni ac yn cynnal perfformiad emosiynol er mwyn cau’r digwyddiad.


Mae hyd at 100 o lefydd ar gael i aelodau o’r cyhoedd ddod i’r digwyddiad, ond rhaid archebu lleoedd ymlaen llaw ar sail y cyntaf i’r felin drwy anfon e-bost at marketing@bridgend.gov.uk erbyn y dyddiad cau, sef dydd Llun 20 Ionawr 2020.

Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn cynnal digwyddiad Diwrnod Cofio’r Holocost bob blwyddyn i gofio’r dioddefwyr a gollodd eu bywydau’n drasig yn yr Holocost a’r hil-laddiadau dilynol yn Rwanda, Cambodia, Bosnia a Darfur, ac i anrhydeddu’r rheini sydd wedi goroesi.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Dietenne Gahizi-Ganza, un o oroeswyr Hil-laddiad 1994 yn erbyn y Tutsi, am roi o’i amser i ddod i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i rannu stori ei fywyd â ni

Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Does dim llawer o le i barcio yn y lleoliad, a dylid archebu lle ymlaen llaw. Mae lleoedd parcio eraill ar gael yng nghanol y dref neu mewn meysydd parcio gerllaw. Dylai’r rheini sydd â phroblemau hygyrchedd ddarparu’r wybodaeth hon wrth archebu lle i’r digwyddiad er mwyn sicrhau bod lle parcio yn cael ei ddyrannu iddynt.

Chwilio A i Y