Gwahoddiad i drigolion lleol fynychu digwyddiad cyngor ynghylch ‘Costau Byw’
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 13 Mai 2022
Estynnir gwahoddiad i drigolion yng nghyffiniau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fynychu digwyddiad ‘costau byw’ AM DDIM fydd yn cynnig cefnogaeth a chyngor i bobl o bob cwr o’r fwrdeistref sirol.
Cynhelir y digwyddiad ddydd Mawrth 17 Mai rhwng 3pm a 6pm yng Nghanolfan Richard Price yn Llangeinor.
Bydd digon o gyngor wrth law a fydd yn rhoi amrywiaeth o wahanol fathau o gymorth i drigolion lleol megis:
- Cymorth gyda biliau
- Cyngor defnyddiol ar y bargeinion ynni gorau
- Awgrymiadau ar sut i arbed arian ar gyfer bwyd
- Cyngor ar wneud cais am fudd-daliadau ychwanegol
Bydd y fenter eang hon yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau allweddol yn gweithio mewn partneriaeth â thîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr y cyngor megis Cyngor ar Bopeth, Cymoedd i’r Arfordir, Power Up, Canolfan Ofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, Pobl, Baobab Bach, gan alluogi trigolion i gael yr union fath o gymorth sydd ei angen arnynt.
Mae’r digwyddiad yn ail bwysleisio ymrwymiad y cyngor i sicrhau y gall trigolion lleol gael y cymorth sydd ei angen arnynt gyda’r cynnydd mewn costau byw.
Mae’r amrywiaeth o sefydliadau sy’n mynychu’r digwyddiad yn dangos bod awydd gwirioneddol i gynorthwyo trigolion ledled Pen-y-bont ar Ogwr. Gall y digwyddiad hwn wneud gwahaniaeth sylweddol i’n holl gymunedau lleol, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon i ddod draw i’r digwyddiad hwn am gyngor.
Rydym yn sylweddoli y bydd cynnydd costau byw pawb yn amrywio a gyda’r cyngor yn ymdrin â sawl maes gobeithiwn y bydd hyn yn cael effaith gwirioneddol bositif ar y fwrdeistref gyfan.
Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau