Gwahodd artistiaid i arddangos gwaith celf ym Mhafiliwn y Grand ym Mhorthcawl
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 30 Mawrth 2021
Mae artistiaid newydd, artistiaid sy'n dod yn fwyfwy poblogaidd ac artistiaid llawrydd profiadol yn cael eu gwahodd i arddangos eu gwaith ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl fel rhan o Arddangosfa Posteri’r Promenâd.
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn rhoi cyfle i artistiaid gymryd rhan mewn arddangosfeydd rhwng mis Mai a mis Awst 2021. Bydd gwaith celf yn cael ei arddangos ar fyrddau posteri allanol yr adeilad ac yn y ffenestri am gyfnod o bedair i chwe wythnos.
Dywedodd prif weithredwr Awen, Richard Hughes: “Wrth i’r theatr restredig Gradd II hon baratoi i ailagor ar gyfer sioeau, mae hwn yn gyfle cyffrous i artistiaid arddangos eu gwaith celf a chael effaith mewn ardal glan môr poblogaidd sydd â nifer fawr o ymwelwyr.
“Pan lansiwyd Arddangosfeydd Posteri’r Promenâd yr haf diwethaf, cawsom lawer o adborth cadarnhaol ac rydym nawr yn edrych ymlaen at weld ceisiadau eleni.
“Rydym yn croesawu pob ymholiad a chais gan artistiaid llawrydd newydd neu brofiadol yng Nghymru - mae gennym ddiddordeb mewn clywed am gynigion ym mhob cyfrwng ar brosiectau y gellir eu datblygu ar y cyd â'r tîm creadigol yn y theatr.”
Bydd ffioedd a chostau'n cael eu talu. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch nicola.edwards@awen-wales.com
Y dyddiad cau i gyflwyno gwaith celf yw dydd Sadwrn 3 Ebrill.
Cefnogir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru.