Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Grwpiau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i ddiogelu dyfodol llwybr Cwm Garw

Mae mwy na saith sefydliad lleol a chenedlaethol wedi cytuno i weithio gyda thrigolion Cwm Garw i wneud yn siŵr bod llwybr cymunedol poblogaidd yn aros ar agor ac yn addas i’w ddefnyddio.

Mewn cyfarfod diweddar, a gadeiriwyd gan aelod ward Pontycymer, y Cynghorydd Rod Shaw, sicrhawyd ymrwymiad y sefydliadau canlynol: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Sustrans, Cadwch Gymru’n Daclus, Network Rail, Groundwork Wales a Chymdeithas Dreftadaeth Rheilffordd Cwm Garw.

Agorwyd y llwybr yn wreiddiol fel cysylltiad seiclo a cherdded hollbwysig rhwng Blaengarw yng Nghwm Garw a Bryngarw ger Brynmenyn, a Groundwork Bridgend oedd yn gyfrifol am wneud y gwaith cynnal a chadw yn flaenorol.

Pan aeth y sefydliad hwnnw i ddwylo’r gweinyddwyr yn 2014, trosglwyddwyd y brydles i Gymdeithas Dreftadaeth Rheilffordd Cwm Garw. Dechreuodd y Gymdeithas chwilio am bartneriaid posibl i’w helpu i ofalu am y llwybr a’i gynnal a’i gadw.

Mae ymweliad â’r safle yn cael ei drefnu ar hyn o bryd er mwyn nodi’r gwaith angenrheidiol, llunio ffeithlenni a datblygu cynllun i reoli isdyfiant a bywyd gwyllt.

Mae llwybrau cymunedol yn chwarae rhan bwysig mewn sefydlu cysylltiadau cymdeithasol yn ogystal â chynnig ffyrdd amgen o deithio, cadw’n heini a byw bywyd egnïol.

Bydd cyfraniad y gymuned yn rhan allweddol o ddiogelu’r llwybr hwn yn yr hirdymor, ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut y bydd y bartneriaeth hon yn datblygu ymhellach.

Cynghorydd Richard Young, yr Aelod Cabinet Dros Gymunedau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Rod Shaw, cynrychiolydd etholedig ward Pontycymer: “Mae’n newyddion gwych i drigolion Cwm Garw ein bod wedi llwyddo i ddod â’r sefydliadau hyn at ei gilydd a sicrhau eu cytundeb i weithio mewn partneriaeth â'r gymuned, a hoffwn ddiolch i bawb am eu hymdrechion.”

Chwilio A i Y