Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Grŵp syrffio cynhwysol newydd ar frig y don ym Mhorthcawl

Mae grŵp syrffio newydd Porthcawl wedi ymuno â’r don o glybiau lleol sy’n cynnig cyfleoedd i bobl ag anableddau fwynhau chwaraeon.

Mae’r fenter gymdeithasol Karma Seas yn darparu sesiynau cynhwysol bob wythnos lle gall pobl o bob oedran a gallu roi cynnig ar syrffio ar draethau'r dref.

Mae Karma Seas eisoes yn gweithio tuag at Safon Rhuban Insport gan Chwaraeon Anabledd Cymru, sy’n cydnabod ymrwymiad clybiau chwaraeon i ddarparu cyfleoedd cynhwysol.

Dywedodd Julia Thomas, a sefydlodd Karma Seas yn gynharach eleni: “Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud syrffio, yoga a gweithgareddau ar y traeth yn hygyrch i bobl sydd wedi’u heithrio oherwydd anfanteision cymdeithasol neu economaidd ar hyn o bryd.

“Ein nod yw sicrhau bod buddiannau iechyd corfforol a meddyliol syrffio ar gael i bawb, beth bynnag fo’u hanabledd, eu hoedran, eu rhyw, eu diwylliant neu eu statws economaidd.

“Y rhan fwyaf o wythnosau, rydyn ni’n cynnal sesiynau i bobl ifanc ac oedolion sydd ag amrywiaeth o anableddau, niwed ar yr ymennydd, awtistiaeth a chyfyngiadau corfforol. Rydyn ni wedi cynnal ein sesiynau syrffio Aspergers ac ASD cyntaf i deuluoedd hefyd, yn ogystal â sesiwn i fenywod yn unig.”

Mae’n wych clywed am y cyfleoedd mae Karma Seas yn eu cynnig. Rydyn ni’n ffodus iawn bod gennym ni rai o’r amodau syrffio gorau yng Nghymru ar ein traethau, ac mae bob amser yn braf gweld mwy fyth o bobl yn mwynhau syrffio ac yn rhoi cynnig arni.

Yn ogystal â Karma Seas, mae ystod eang o glybiau chwaraeon lleol eraill sydd hefyd yn cynnig gweithgareddau i bobl ag anableddau, felly byddwn yn annog pobl i gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i wefan Chwaraeon Anabledd Cymru yn https://www.chwaraeonanableddcymru.com i weld beth sydd ar gael.

Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

Os ydych chi’n rhan o glwb chwaraeon lleol ac yr hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut gallai'ch clwb fod yn fwy cynhwysol ar gyfer pobl ag anableddau, cysylltwch â Chris Foot, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, drwy ffonio 07970268322 neu anfon e-bost at chris.foot@bridgend.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Karma Seas, ffoniwch Julia ar 07919 133855. Byddai’r clwb hefyd yn gwerthfawrogi offer sbwng, byrddau corff neu siwtiau gwlyb yn rhodd os ydynt mewn cyflwr da.

Chwilio A i Y