Great Uncle Bulgaria yn agor siop ailddefnyddio Maesteg
Poster information
Posted on: Dydd Llun 17 Chwefror 2020
‘Underground, overground, Wombling free’ - mae'r Wombles o Wimbledon yn gwybod sut i wneud defnydd da o'r pethau maent yn dod o hyd iddynt, y pethau mae pobl yn eu gadael ar ôl.
Ac yn yr un modd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio gyda'i bartneriaid, Kier, a'r fenter gymdeithasol, Wastesavers, i agor siop ailddefnyddio yng Nghanolfan Ailgylchu Maesteg.
Wedi'i hagor yn swyddogol gan Great Uncle Bulgaria ddydd Gwener, 14 Chwefror, mae'r siop o'r enw The Siding, yn cynnwys popeth o feiciau a sgwteri i lyfrau a DVDs, seinyddion, gemau a chrochenwaith.
Ers agor ym mis Hydref, mae'r siop wedi gwerthu miloedd o eitemau ac wedi gwneud elw o fwy na £3,500 a gafodd ei fuddsoddi gan Wastesavers yn ei raglenni gwirfoddolwyr a chymdeithasol.
Dywedodd Alun Harries, rheolwr elusennol Wastesavers: “Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr, cafodd pum tunnell o wastraff ei achub rhag mynd i safleoedd tirlenwi.
“Pan fydd trigolion yn dod i'r tair canolfan ailgylchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd y staff yn chwilio am unrhyw beth sy'n rhy dda i fynd i'r safle tirlenwi yn eu barn hwy.
“Mae gennym siopau ailddefnyddio yng Nghasnewydd, Rhondda Cynon Taf, a bydd un yn agor yn fuan yng Nghaerdydd – mae llif cyson bob amser pan fydd siop newydd yn agor ond unwaith mae pobl yn clywed amdani, mae’n prysuro'n hynod gyflym."
Heb unrhyw amheuaeth, bydd y defnydd o'r siop yn tyfu ac yn tyfu. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cynnig y gwasanaeth hwn mewn partneriaeth â Kier a Wastesavers. Mae'n rhan bwysig o'n hagenda argyfwng yn yr hinsawdd.
Nid ydym wedi datgan argyfwng yn yr hinsawdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr am ein bod yn credu mewn gweithredu a dyma un o gyfres o gamau gweithredu rydym yn ymgymryd ag ef i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng rydym yn ei wynebu.
Mae gennym eisoes yr ail gyfradd ailgylchu uchaf yng Nghymru ac mae gan Gymru'r drydedd gyfradd ailgylchu uchaf yn y byd. Rydym yn gwneud llawer ond mae angen i ni wneud llawer mwy.
Huw David