Grantiau cyfyngiadau symud ar gael o hyd i fusnesau cymwys
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 13 Tachwedd 2020
Mae gan fusnesau ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n wynebu heriau gweithredol ac ariannol oherwydd cyfyngiadau'r cyfnod atal byr lleol a chenedlaethol yn sgil Covid-19 amser eto i wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Gall cwmnïau cymwys nad ydynt wedi gwneud cais eisoes i'r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud, a agorwyd ddiwedd mis Hydref, wneud hynny hyd at 5pm ar 20 Tachwedd neu nes bydd y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.
Mae cannoedd o fusnesau ledled y fwrdeistref sirol wedi cael cymeradwyaeth am eu ceisiadau am gyllid drwy'r cynllun grant hwn ac rydym yn gwahodd unrhyw gwmnïau cymwys eraill nad ydynt wedi gwneud cais i wneud hynny.
Nod y cyllid yw darparu cymorth llif arian i fusnesau i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd cyfnodau o gyfyngiadau symud diweddar Covid-19. Mae'n ddealladwy bod busnesau yn poeni'n fawr am y dyfodol a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ein hadnoddau ar eu cefnogi nhw yn y cyfnod hynod anodd hwn.
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David
Mae'r Grant Ardrethi Annomestig y Cyfyngiadau Symud yn dal i fod yn agored i fusnesau sy'n rhwymedig i dalu ardrethi busnes. Yn dilyn adolygiad o geisiadau a gafwyd hyd yn hyn, bydd y Gronfa yn ôl Disgresiwn i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud yn ail-agor i geisiadau newydd ddydd Llun, 16 Tachwedd, am hanner dydd.
Y Grant Ardrethi Annomestig y Cyfyngiadau Symud (NDR) - Grant 1
Mae grant o £5,000 ar gael ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd wedi cael eu gorfodi i gau - fel y'u diffinnir gan y rheoliadau - ac sy'n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000.
Bydd angen i fusnesau fod ar restr ardrethu NDR ar gyfer eu hawdurdod lleol ar 1 Medi 2020 a bydd angen iddynt lenwi ffurflen gofrestru syml i gael y grant. Rhaid i fusnesau fod yn gyfrifol am ardrethi busnes sy'n daladwy i'r awdurdod lleol i fod yn gymwys i gael y grant hwn.
Mae’r canllawiau’n rhestru’r eiddo a fydd yn elwa o’r rhyddhad fel eiddo sy’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf:
- Fel siopau, bwytai, caffis, lleoedd yfed, sinemâu a lleoliadau cerddoriaeth fyw
- Ar gyfer ymgynnull a hamdden
- Fel gwestai, tai llety a safleoedd preswyl a llety hunanarlwyo.
Mae'r grant hefyd ar gael i sefydliadau nid-er-elw sy'n meddiannu eiddo cymwys fel siopau elusennol, gan gynnwys y rhai sydd eisoes yn gymwys i gael rhyddhad gorfodol rhannol ar yr eiddo hynny.
Grant Ardrethi Annomestig y Cyfyngiadau Symud (NDR) - Grant 2
Grant o £1,000 i fusnesau sy’n gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yng Nghymru sy'n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000 - mae yna rai eithriadau. Rhaid i fusnesau fod yn gyfrifol am ardrethi busnes sy'n daladwy i'r awdurdod lleol i fod yn gymwys am y grant hwn.
Yn dibynnu ar fodloni'r meini prawf cymhwysedd, gall ymgeiswyr am Grant 2 hefyd wneud cais am y grantiau atodol canlynol:
- Bydd busnesau sy'n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach sydd wedi bod yn destun cyfyngiadau lleol am 3 wythnos neu fwy ac sydd wedi cael eu heffeithio'n sylweddol (gostyngiad o fwy na 50 y cant mewn trosiant) hyd at 23 Hydref yn gymwys i gael grant pellach o £1,000
- a bydd busnesau sy'n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach sydd wedi'u gorfodi i gau - fel y'u diffinnir gan y rheoliadau - o ganlyniad i'r cyfnod atal byr hefyd yn gymwys i gael grant atodol arall gwerth £2,000 gan eu hawdurdod lleol.
Bydd angen i fusnesau fod ar restr ardrethu NDR eu hawdurdod lleol ar 1 Medi 2020 a bydd angen iddynt lenwi ffurflen gais syml i gael y grant.
Grant Dewisol 1 y Cyfyngiadau Symud
Mae grant dewisol o £1,500 ar gael i gynorthwyo busnesau sydd:
- Wedi cael eu gorfodi i gau (fel y'u diffinnir gan y rheoliadau) o ganlyniad i'r cyfnod atal byr cenedlaethol
- NEU sy'n gallu dangos y bydd y cyfnod atal byr cenedlaethol yn arwain at ostyngiad o 80 y cant o leiaf yn eu trosiant am y cyfnod hwnnw
Grant Dewisol 2 y Cyfyngiadau Symud
Mae grant dewisol o £2,000 ar gael i gynorthwyo busnesau sydd:
- Wedi cael eu gorfodi i gau (fel y'u diffinnir gan y rheoliadau) o ganlyniad i'r cyfnod atal byr cenedlaethol
- NEU sy'n gallu dangos y bydd y cyfnod atal byr cenedlaethol yn arwain at ostyngiad o 80% o leiaf yn eu trosiant am y cyfnod hwnnw
- AC sydd wedi bod yn destun cyfyngiadau lleol am 3 wythnos neu fwy hyd at Hydref 23 ac wedi profi gostyngiad o 50% o leiaf yn eu trosiant am y cyfnod hwnnw.
Ni allwch wneud cais am y ddau grant a bydd angen i chi gadarnhau y bydd hyfywedd y fenter dan fygythiad heb y gefnogaeth grant, ac amlinellu pam.
I wneud cais neu i gael mwy o fanylion am y grantiau sydd ar gael fel rhan o'r gronfa, ewch i dudalen gwe cymorth busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ymdrinnir â cheisiadau ar sail y cyntaf i'r felin. Gall hyn arwain at beidio â chymeradwyo ceisiadau ar ôl iddynt gael eu cyflwyno os yw'r gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.