Grantiau addasiadau awyr agored ar gael i bentrefi, trefi a chymoedd
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 29 Rhagfyr 2020
Mae perchnogion eiddo a busnesau masnachol mewn cymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu gwahodd i ymgeisio am grantiau hyd at £10,000 i wneud addasiadau awyr agored a fyddai’n galluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol.
Mae Cronfa Adferiad Rhag Covid-19 ar gyfer Gwelliannau Awyr Agored yn targedu ardaloedd allanol lle y gall cwsmeriaid a’r cyhoedd ymgynnull, ymlacio neu dderbyn bwyd a diod.
Mae’r cyllid ar gael drwy geisiadau gan unrhyw gymuned a gellir defnyddio’r arian ar gyfer amrywiaeth o addasiadau megis canopïau, dodrefn allanol, potiau planhigion ac ati.
Mae’r grant yn darparu cyllid hyd at 80 y cant neu uchafswm o £10,000 o werth y costau gwelliannau cymwys, gyda’r 20 y cant sy’n weddill o gyfanswm costau’r prosiect i’w ysgwyddo gan yr ymgeisydd.
Hyd yma, dim ond perchnogion busnes ac eiddo yn ardaloedd trefol y fwrdeistref sirol fu’n gymwys i ymgeisio am gyllid. Wrth i ni sylweddoli fod yna angen am hyn ledled y fwrdeistref sirol, rydym yn falch iawn fod ein gwaith gyda’n cyllidwyr wedi bod yn llwyddiannus wrth gynnig y grantiau ychwanegol hyn i fusnesau yn yr holl bentrefi, trefi a chymoedd.
Mae’r cyllid yn cefnogi gwelliannau a fydd yn galluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol wrth ddefnyddio mannau allanol lle gall y cyhoedd ymgynnull, boed wrth ddisgwyl, bwyta neu ymlacio.
Golyga hyn, yn sgil yr arian cyfatebol o £350,000 gan y cyngor, grant o £360,000 gan Weithlu’r Cymoedd a’r £350,000 sydd eisoes ar gael i ganol trefi drwy’r gronfa Trawsnewid Trefi, y bydd cyfanswm yr arian fydd ar gael i berchnogion busnesau ac eiddo, dros £1 miliwn.
Dywedodd Aelod y Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Adfywio, y Cynghorydd Charles Smith
Mae’r eitemau sy’n gymwys am gyllid grant yn cynnwys:
- Byrddau allanol, cadeiriau a darparu seddau.
- Cysgodlenni allanol, canopïau, swigod iglw, gwresogi allanol, toeau marcî.
- Sgrinio allanol, bolardiau, potiau planhigion.
- Cyfleusterau gweini allanol.
- Cynlluniau seilwaith gwyrdd.
Byddai dulliau ymyrryd eraill i wella’r ddarpariaeth allanol o bellhau cymdeithasol hefyd yn cael eu hystyried, megis addasiadau i du blaen siopau neu welliannau i gyrtiau / gerddi cefn.
Mae’r grant yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan cymorth busnes y cyngor neu e-bostiwch y tîm Adfywio ar regeneration@bridgend.gov.uk