Grant Datblygu Busnes Newydd ar agor i geisiadau yn fuan
Poster information
Posted on: Dydd Llun 26 Hydref 2020
Mae grant newydd gan Lywodraeth Cymru yn lansio ar ddydd Mercher, 28 Hydref, i helpu busnesau ariannu eu prosiectau datblygu fydd yn eu cefnogi i adfer o effeithiau pandemig Covid-19.
Bydd y grantiau datblygu busnes ar agor i fusnesau o bob maint, a bydd ar agor i geisiadau am bedair wythnos, neu hyd nes bod y gronfa wedi ymrwymo'n llawn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn croesawu prosiectau datblygu fydd yn helpu i gynnal a chreu swyddi ar gyfer pobl ifanc (25 ac iau), pobl gydag anableddau a phobl o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Fel rhan o'r grant newydd:
- Bydd busnesau micro (cyflogi rhwng 1 a 9 person) yn gallu gwneud cais am hyd at £10,000 ar yr amod eu bod nhw'n cyfateb gyda'u buddsoddiad eu hunain gydag o leiaf 10%; Ceir disgresiwn ar gyfer dyfarnu grantiau hyd at 100% i fusnesau micro Twristiaeth a Lletygarwch, a'r busnesau micro hynny sydd wedi gorfod cau yn sgil y Cyfnod Atal Byr;
- Bydd BBaCh (yn cyflogi rhwng 10 a 249 person) yn gallu gwneud cais am hyd at £150,000. Bydd gofyn i fusnesau bach (gyda hyd at 50 gweithiwr) gyfateb gyda'u buddsoddiad eu hunain gydag o leiaf 10%, a busnesau canolig (rhwng 50 a 249 o weithwyr) gydag o leiaf 20% o'u cyllid eu hunain; Ceir disgresiwn ar gyfer dyfarnu grantiau hyd at 100% i fusnesau micro Twristiaeth a Lletygarwch a BBaCh sydd wedi gorfod cau yn sgil y Cyfnod Atal Byr;
- Bydd busnesau mawr (cyflogi 250+ o bobol) yn gallu gwneud cais am hyd at £200,000 ar yr amod eu bod nhw'n cyfateb gyda'u buddsoddiad eu hunain gydag o leiaf 50%.
Os yw'r prosiect yn creu swyddi newydd ar gyfer pobol ifanc (25 ac iau), efallai y bydd busnesau yn gymwys ar gyfer dyfarniad lefel uwch.
Mae'r cyllid, sy'n ffurfio rhan o Gronfa Gwytnwch Economaidd Llywodraeth Cymru, ar gyfer y cyfnod o fis Hydref 2020 i 31 Mawrth 2021.
Dylai'r prosiect ymdrin ag un neu fwy o'r galwadau i weithredu yng Nghynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru:
- Lleihau allyriadau carbon
- Datblygu Arloesedd ac entrepreneuriaeth
- Cynyddu Allforion a Masnach
- Creu cyflogaeth o ansawdd uchel, datblygu sgiliau
- Datblygu Awtomatiaeth, a Digidoleiddio
Am ragor o fanylion ac i ymgeisio, gweler wefan Busnes Cymru.