Grant Cymorth Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr gwerth £75,000 i'w wario ar helpu clybiau chwaraeon gyda'u costau gweithredu yn ystod pandemig y coronafeirws
Poster information
Posted on: Dydd Iau 16 Ebrill 2020
Gwahoddir clybiau chwaraeon ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wneud cais am grantiau o hyd at £1,000 i'w helpu gyda'u costau gweithredu o ddydd i ddydd yn ystod pandemig y coronafeirws.
Lansiodd yr awdurdod lleol ei Gronfa Cymorth Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr gwerth £75,000 yn gynharach eleni fel rhan o'r broses trosglwyddo asedau fel meysydd chwarae a chyfleusterau awyr agored i’r gymuned.
Ond bellach mae'r cyngor wedi ad-drefnu'r grant er mwyn helpu i gefnogi clybiau trwy ddarparu cymorth ariannol brys yn ystod achos COVID-19.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 15 Mai.
Rydym yn ymwybodol fod clybiau chwaraeon yn wynebu heriau sylweddol o ganlyniad uniongyrchol i'r argyfwng presennol. Bwriad y grant cymorth yn wreiddiol oedd annog cyfranogiad, twf a gwelliant mewn chwaraeon, gan anelu'n bennaf at gynorthwyo clybiau mini, iau ac ieuenctid a chwaraeon a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Ond o ganlyniad i'r ansicrwydd parhaus, mae meini prawf y cyllid yn cael eu hehangu er mwyn galluogi'r holl glybiau chwaraeon yn y fwrdeistref sirol i gyflwyno cais am gyllid yn gofyn am gymorth ariannol ar unwaith tuag at gostau gweithredu cyffredinol, yn ogystal â grantiau a allai helpu i dalu am gyfarpar a hyfforddiant.
Er mwyn cymeradwyo a dosbarthu'r cyllid erbyn diwedd mis Mai, gan alluogi clybiau chwaraeon i gael y budd mwyaf o'r ffynhonnell ariannu hon yn ystod y cyfnod anodd hwn, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 15 Mai. Rydym wedi bod mewn cysylltiad agos â chyrff llywodraethu rygbi, pêl-droed, criced a bowlio – ac rydym wedi dosbarthu ffurflenni i'r holl glybiau chwaraeon sy'n defnyddio cyfleusterau sy'n eiddo i'r cyngor.
Richard Young, aelod y Cabinet dros gymunedau
Fel rhan o'r cais am grant, bydd angen i glybiau chwaraeon gyflwyno copïau o dystiolaeth berthnasol o daliadau fel anfonebau, derbynebau a/neu gyfriflenni banc sy'n dangos gwariant ar gyfer y cyfnod ar ôl 31 Mawrth 2020.
Am ragor o fanylion am y gronfa neu am ffurflen gais, e-bostiwch swyddog trosglwyddo asedau cymunedol y cyngor, sef Guy Smith, ar guy.smith@bridgend.gov.uk