Grant £20,000 Shopmobility yn helpu i dalu am fflyd newydd o sgwteri ar gyfer cwsmeriaid yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Llun 09 Mawrth 2020
Mae fflyd newydd o sgwteri symudedd wedi'u cyflwyno yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl i'r gwasanaeth Shopmobility dderbyn grant gwerth £20,000 gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r gwasanaeth a weithredir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn benthyca sgwteri a chadeiriau olwyn â phŵer i aelodau o'r cyhoedd â symudedd cyfyngedig fel y gallant siopa a mynychu apwyntiadau yng nghanol y dref.
Defnyddiwyd y grant i brynu 13 o sgwteri a dwy gadair olwyn drydan newydd , er mwyn eu cyfnewid â'r rheini a oedd yn fwy na degawd oed.
Roedd yr hen stoc yn dechrau treulio ac o ganlyniad, nid oedd yn addas ar gyfer amodau tywydd penodol. Mae'r grant hwn wedi'n galluogi i ariannu rhai newydd a chyfrannu £4,000 tuag at gostau rhedeg y cyfleuster eleni. Nid yw’r gwasanaeth ar gyfer deiliaid bathodyn glas yn unig, ond ar gyfer unrhyw un â phroblemau symudedd.
Wrth ddefnyddio gwasanaeth teithiwr tref Trafnidiaeth Gymunedol Pen-y-bont ar Ogwr, gall pobl cael eu casglu o’u cartref, a'u gollwng yn Shopmobility ble y gallant logi sgwter i fynd o amgylch y dref, cyn cael eu casglu gan y bws cymunedol a'u hebrwng adref eto, yn ddibynnol ar argaeledd.
Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau
Defnyddir y gwasanaeth Shopmobility - a leolir yn y maes parcio aml-lawr ar Stryd Bracla - oddeutu 4,000 o weithiau’r flwyddyn gan bobl sy'n llogi sgwteri a chadeiriau olwyn.
Roedd yn wynebu'r posibilrwydd o gau o ganlyniad i doriadau yn y gyllideb ond yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus mae'r cyngor wedi penderfynu cadw’r gwasanaeth.
Fodd bynnag, er mwyn helpu i ddiogelu'r gwasanaeth rhag cau yn y dyfodol, codir tâl ar gwsmeriaid sy'n llogi sgwteri symudedd am y tro cyntaf o 1 Ebrill.
Gofynnir i gwsmeriaid dalu ffi gofrestru flynyddol o £5 a thâl llogi dyddiol o £3.
Mae'r ffi gofrestru yn cynnwys y tâl cyntaf ar gyfer llogi sgwter tra bydd bob tâl llogi £3 yn cynnwys parcio am ddim ym maes parcio aml-lawr Stryd Bracla ar gyfer hyd ymweliad y cwsmer.
Am y 15 mlynedd diwethaf, gofynnwyd i gwsmeriaid dalu blaendal o £2 i logi sgwter – er bod nifer o bobl mewn gwirionedd wedi rhoi £2 er mwyn cefnogi'r gwasanaeth.
O fis Ebrill, bydd oriau agor y gwasanaeth hefyd yn cael eu lleihau ychydig – gan agor 45 munud yn ddiweddarach, am 9.15am, a chau awr yn gynharach, am 4pm.
Dywedodd y Cynghorydd Young: “Nid oes gan nifer o awdurdodau lleol wasanaeth Shopmobility mwyach gan nad yw'n cael ei ystyried yn ddyletswydd statudol i ddarparu'r gwasanaeth ond rydym yn gwybod cymaint y mae pobl yn ei werthfawrogi.
“Gobeithiwn y bydd y mesurau newydd hyn yn helpu i sicrhau parhad y gwasanaeth yn y dyfodol.”