Graddau arholiadau 2021 yn seiliedig ar asesiadau athrawon
Poster information
Posted on: Dydd Iau 21 Ionawr 2021
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn dyfarnu canlyniadau arholiadau ar gyfer 2021 yn seiliedig ar waith mae myfyrwyr wedi ei gwblhau yn ystod eu cwrs, yn dilyn amhariad pellach ar ddysgu wyneb-yn-wyneb a achoswyd gan bandemig coronafeirws.
Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y bydd dysgwyr sy'n astudio TGAU, UG a Safon Uwch a gymeradwywyd gan Gymwysterau Cymru eleni'n derbyn graddau a bennir gan eu hysgol neu goleg, ac yn seiliedig ar waith cwrs a thystiolaeth arall megis ffug arholiadau.
Dywedodd y Gweinidog: "Mae'r sefyllfa sy'n gwaethygu yn sgil y pandemig yn golygu nad oes gennym yr un dewis ond ail-ymweld â'n dull i sicrhau llesiant a hyder y cyhoedd yn ein system gymwysterau.
"Mae'r cynigion rydym yn eu cyhoeddi yn rhoi ffydd yng ngwybodaeth athrawon a darlithwyr o waith eu dysgwr, yn ogystal â'u hymrwymiad i flaenoriaethu addysgu a dysgu yn yr amser sydd ar gael i gefnogi cynnydd dysgwyr.
"Fy mhrif flaenoriaeth yw addysgu cynnwys ac agweddau craidd bob cwrs i ddysgwyr mewn blynyddoedd arholiadau, felly maent yn cael eu cefnogi i wneud cynnydd gyda sicrwydd yn ystod eu camau nesaf, a gyda hyder yn eu graddau.
"Rydym yn gweithio gyda sefydliadau addysg uwch i edrych ar sut allwn ni gefnogi dysgwyr drwy'r newid hwn, a gallu darparu pont i gyrsiau prifysgol.
"Hoffwn ddiolch i bob dysgwr a gweithiwr proffesiynol addysg am eu hyblygrwydd parhaus a'u gallu i addasu wrth ymateb i'r sefyllfa herio iawn hon.
“Mae eu hymrwymiad parhaus yn wyneb adfyd yn rhagorol, ynghyd â’u cyfraniad unigol a chyfunol i’r ymdrech genedlaethol yn erbyn Covid-19.”
Daeth y cyhoeddiad yn dilyn argymhellion gan y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflenwi, sy'n cynnwys penaethiaid ac arweinwyr colegau.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Yn dilyn cymaint o aflonyddwch i ddysgu wyneb-yn-wyneb i’n disgyblion a’n myfyrwyr a achosiwyd gan y pandemig, rwy’n croesawu’r cyhoeddiad hwn gan y gweinidog.
“Mae llesiant a hyder disgyblion yn y system yn hynod bwysig a rhaid i ni ymddiried yn ein hathrawon a sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth broffesiynol o ran egwyddorion asesu.
“Diolch i’n holl weithwyr mewn ysgolion a cholegau, disgyblion, a’u rhieni a’u gofalwyr am eu hamynedd a’u hyblygrwydd parhaus.”
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i ddarllen datganiad y gweinidog yn llawn.