Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gosod panelau solar mewn ysgol gynradd

Mae panelau solar wedi’u gosod ar do ysgol gynradd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i'w helpu i leihau ei biliau ynni a dod yn fwy hunangynhaliol.

Prynwyd y panelau, a gafodd eu troi ymlaen yn Ysgol Gynradd Llidiart yn gynharach yn y mis, gan ddefnyddio cyllid yr ysgol a benthyciad di-log. Disgwylir i’r ysgol adennill y buddsoddiad o fewn pedair blynedd.

Dangosodd archwiliadau ynni diweddar fod yr ysgol yn defnyddio cyflenwad sylweddol o drydan, felly mae staff wedi bod yn gweithio gyda swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros y 18 mis diwethaf i baratoi a rheoli prosiect y cynllun.

Gosodwyd to newydd yn yr adran iau yn 2020, ac mae'r panelau solar nawr wedi’u gosod ar yr adeilad hwn, yn ogystal ag adran y babanod.

Mae’r ysgol wedi bod yn rhan o nifer fawr o brosiectau ynni dros y blynyddoedd, ond gwelsom fod angen gwneud mwy o waith i leihau ein defnydd. Mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn mesurau arbed ynni ers nifer o flynyddoedd. Mae’r eco-bwyllgor yn ymgymryd ag ystod o dasgau, gan gynnwys monitro goleuadau a chyfrifiaduron er mwyn sicrhau eu bod wedi’u diffodd ar ddiwedd y dydd.

Maent hefyd wedi bod yn weithgar iawn wrth ddadansoddi’r data trydan - yn casglu darlleniadau mesurydd gan y gofalwr a llunio graffiau i ddangos ein defnydd. Roeddent yn gallu gweld sut mae defnydd ynni yn saethu i fyny ym mis Hydref ac yn lleihau eto yn y gwanwyn.

Yn rhan o’r gosodiad, mae porth sy’n monitro faint o ynni mae’r panelau solar yn ei gynhyrchu, y bydd yr eco-bwyllgor yn gallu ei olrhain. Mae'n dangos perfformiad pob un o’r panelau solar fel bod disgyblion yn gallu gweld bod pob un yn gwneud tasg fach a gyda’i gilydd, maent yn gwneud tasg fawr. Os ydym i gyd yn gwneud ein rhan dros yr amgylchedd, gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr.

Prifathro Jeremy Phillips
Roedd Owain Lewis, Thomas Roberts a Matthew Hussell o Eco-Bwyllgor Ysgol Gynradd Llidiard ar gael i ddangos i'r Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau, sut fydd y panelau solar newydd yn dod ag arbedion ynni sylweddol i'r ysgol

Chwilio A i Y