Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gofyn i drigolion am eu barn ynghylch llwybr teithio llesol Ffordd y Bont-faen

Mae ymgynghoriad ar y gweill gyda thrigolion sy’n byw ger llwybr teithio llesol arfaethedig.

Cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr lwybr teithio llesol dros dro ar Ffordd y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr, ym mis Tachwedd 2020 i gysylltu cylchfan Llangrallo â chanol y dref, sy’n ffurfio rhan bwysig o’r llwybr teithio llesol ehangach o Ben-y-bont ar Ogwr i Bencoed.

Mae’r cynllun dros dro bellach wedi’i ddileu ac mae cynlluniau ar gyfer llwybr parhaol, a fyddai’n cael ei ariannu gan ddefnyddio grantiau Llywodraeth Cymru, yn cynnwys creu croesfannau mwy diogel ar gyffordd Ffordd Caerefrog gydag Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y llwybr yn cysylltu â llwybr cerddwyr a beicio newydd sy'n cael ei greu ar hyn o bryd o amgylch cylchfan Waterton. Bydd hyn yn darparu cyswllt â llwybr teithio llesol Brocastell ar yr A48 sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd, yn ogystal â nifer o lwybrau i gerddwyr yn yr ardal, gan ddarparu cyfleusterau croesi diogel lle nad oes rhai ar hyn o bryd.

Bydd trigolion ar hyd y ffordd yn derbyn llythyr a llun o'r llwybr arfaethedig a gwahoddiad i rannu eu barn. Mae'r llythyr yn cynnwys cyfeiriad post ar gyfer ymatebion, yn ogystal â chyfeiriad e-bost. Bydd yr holl sylwadau’n cael eu hystyried pan fydd dyluniad terfynol y llwybr yn cael ei lunio.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad anstatudol sy’n cael ei gynnal yn unol â’r canllawiau priodol, wedi’i ymestyn i ddydd Mawrth 6 Ebrill 2021 i ganiatáu mwy o amser drigolion i ymateb dros wyliau’r Pasg.

Nod llwybrau teithio llesol yw gwella amodau diogelwch er mwyn galluogi'r rhai sydd am gerdded neu feicio i adael eu ceir gartref, gan helpu i leihau tagfeydd a llygredd amgylcheddol.

Mae'r cyngor hefyd yn gwahodd trigolion i ymateb i’w ymgynghoriad teithio llesol ehangach, sy’n cau ar ddydd Sul 4 Ebrill.

Yn seiliedig ar ymatebion i ymgynghoriad cam cyntaf, lluniwyd cynlluniau llwybr drafft yn dangos llwybrau teithio llesol presennol ac arfaethedig yn y dyfodol. Nawr, gallwch weld y map drafft a dweud eich dweud ar ein gwefan ymgynghoriad llwybrau teithio llesol.

Am ragor o wybodaeth am deithio llesol, ewch i wefan y cyngor.

Chwilio A i Y