Gofyn i ddisgyblion Ysgol Gyfun Bryntirion hunanynysu
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 08 Medi 2020
Gofynnwyd i dros 200 o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Bryntirion hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos o COVID-19 yn yr ysgol.
Mae'r disgyblion, sydd ym mlwyddyn saith, wedi eu nodi fel rhai a gafodd gysylltiad posibl â’r unigolyn sydd wedi derbyn prawf positif. Effeithiwyd ar dri aelod o staff yn yr ysgol hefyd.
Mae safle'r ysgol wrthi’n cael ei lanhau’n drylwyr, a gofynnwyd iddynt aros gartref fel mesur rhagofalus er mwyn lleihau lledaeniad posibl y feirws i'w teuluoedd, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Bydd pob un o'r grwpiau blwyddyn eraill yn parhau i fynychu'r ysgol fel y cynlluniwyd.
Dywedodd y prifathro, Ravi Pawar: "Cyn gynted ag y derbyniodd yr ysgol y neges am ganlyniad y prawf positif, cymerwyd camau gweithredu ar unwaith i ddiogelu llesiant ein disgyblion, athrawon a staff.
"Eu lles nhw yw ein prif flaenoriaeth o hyd, ac mae'r ysgol yn parhau i weithio'n agos gyda'r cyngor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau ein bod yn cynnal gwersi fel arfer.
"Rydym yn defnyddio mynediad ar-lein, dosbarthiadau rhithiol a thechnegau dysgu cyfunol i sicrhau bod pawb yr effeithiwyd arnynt yn gallu parhau i gymryd rhan yn y gwersi ac elwa arnynt.
"Proses barhaus yw hon, a byddwn yn rhannu'r newyddion diweddaraf am unrhyw drefniadau newydd gyda'n disgyblion, rhieni a gofalwyr.”
Mae'r pandemig hwn yn mynd rhagddo o hyd, ac mae’n bwysicach nag erioed bod y gymuned gyfan yn parhau i fod yn wyliadwrus o symptomau COVID-19, a sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau cenedlaethol i helpu i ymladd yn erbyn lledaeniad y feirws.
Mae gweithdrefnau eisoes mewn lle o fewn yr ysgolion i gyfyngu ar faint dosbarthiadau a'r cyswllt rhwng y disgyblion. Gyda threfniadau glanhau llymach ar waith, nid oes angen i unrhyw un na chysylltwyd ag ef hunanynysu na phoeni'n ormodol.
Bydd staff yr ysgol yn parhau i fod yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o symptomau ymysg y plant, ac yn barod i gymryd y camau priodol. Gall rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid gefnogi hyn drwy barhau i fod yn wyliadwrus a sicrhau bod eu plant yn aros gartref os ydynt yn datblygu unrhyw symptomau posib.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio