Gofalwyr maeth lleol yn annog eraill i lenwi eu ‘nyth gwag’
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 23 Tachwedd 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn galw ar bobl sydd â ‘nyth gwag’ i ystyried maethu plentyn neu berson ifanc sydd angen cartref cariadus.
Daw amser ym mywyd pob rhiant pan fydd plant yn gwneud y penderfyniad i ‘hedfan o'r nyth’, p’un a yw hynny i fynd i'r brifysgol neu symud i’w lle eu hunain, gall nifer o rieni brofi teimladau o unigrwydd, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘empty nesters syndrome’.
Mae nifer o rieni yn teimlo eu bod wedi colli eu pwrpas, fodd bynnag, rydym eisiau i rieni wybod pa mor werthfawr y gallent fod i blentyn maeth a gallent ailafael yn eu synnwyr o bwrpas drwy ddod yn rhiant maeth.
Gallai rhieni sy’n teimlo fel hyn fod mewn sefyllfa berffaith i groesawu plentyn newydd. Nid yn unig maent wedi gofalu am eu plentyn eu hunain, ond maent hefyd wedi adeiladu digon o brofiad a gofal, gan eu gwneud yn amhrisiadwy i blentyn mewn angen.
Gall pobl o bob math ddod yn rhiant maeth, ond gall y rhai sydd eisoes wedi magu eu plant eu hunain fod â sgiliau bywyd gwerthfawr a phrofiad i’w gynnig yn barod.
Mae nifer o rieni yn ei chael hi’n anodd addasu i gartref heb blant, ond gallent ddefnyddio eu profiad o fod yn rhieni i wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn neu berson ifanc agored i newid a allai elwa o gefnogaeth mawr ei hangen.
Aelod cabinet y cyngor dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Nicole Burnett
Mae Ian a Lynda wedi bod yn ofalwyr maeth hirdymor gyda Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr ers bron i 10 mlynedd. Ar ôl magu pum plentyn rhyngddynt, a phob un bellach wedi gadael cartref, gwnaethant benderfynu eu bod eisiau parhau i ofalu am blant a’u helpu i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
Dywedodd Lynda: “Nid oeddwn yn barod i roi'r gorau i fod yn fam. Mae gen i’r awydd mawr hwn i helpu pobl nad ydynt mewn sefyllfa i helpu eu hunain.
“Dyna pam ein bod wedi dewis maethu hirdymor. Mae cymaint o rwystrau y dyddiau hyn y mae angen i blant eu goresgyn, ac os allwn ni helpu un plentyn i lywio’r daith honno yn llwyddiannus, yna byddwn wedi cael hwyl dda arni."
Cynigir hyfforddiant llawn, lwfans ariannol, cymorth helaeth a mynediad i ofalwyr maeth eraill i bobl sy'n maethu gyda ni, gan gynnwys grwpiau cymorth.
Yn ddiweddar eisteddodd y gofalwyr maeth tymor hir Ian a Lynda gyda DJ Lee Jukes i drafod realiti a boddhad maethu.
Gan adrodd eu stori, mae Ian a Lynda yn rhannu cipolwg gonest ar eu bywydau bob dydd fel gofalwyr maeth yn ogystal â gwersi maent wedi eu dysgu yn ystod y degawd diwethaf.
Mae’r podlediad ar gael i wrando arno ar ein sianel YouTube, ein gwefan a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol amrywiol.
Os ydych yn meddwl y gall eich cartref gwag chi ddod yn gartref cariadus i blant, ewch i wefan Foster Wales Bridgend i gael rhagor o wybodaeth, neu cysylltwch â'r tîm maethu ar 01443 425007.