Gofalwyr di-dâl a phobl anabl yn cael eu cadarnhau fel blaenoriaeth frechu
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 26 Chwefror 2021
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod pobl sydd ag anableddau neu sy’n gweithredu fel gofalwyr di-dâl wedi cael eu hychwanegu at y grwpiau blaenoriaeth brechu.
Mae’r penderfyniad yn golygu y byddant nawr yn cael eu brechu yn erbyn coronafeirws fel rhan o grŵp blaenoriaeth chwech.
Mae’r grwpiau blaenoriaeth ar gyfer y rhaglen frechu wedi eu pennu ledled y DU gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, ac maent fel a ganlyn:
- Grŵp blaenoriaeth un: Preswylwyr mewn cartref gofal ar gyfer oedolion hŷn a'u gofalwyr
- Grŵp blaenoriaeth dau: Pobl dros 80 oed, a gweithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd rheng flaen.
- Grŵp blaenoriaeth tri: Y rheiny sy’n 75 oed neu hŷn.
- Grŵp blaenoriaeth pedwar: Pawb sy’n 70 oed neu hŷn ac unigolion sy’n ddifrifol fregus yn glinigol.
- Grŵp blaenoriaeth pump: Pawb sy’n 65 oed a hŷn.
- Grŵp blaenoriaeth chwech: Pob unigolyn rhwng 16-64 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o risg o gael clefyd difrifol a marw.
- Grŵp blaenoriaeth saith: Pawb sy’n 60 oed a hŷn.
- Grŵp blaenoriaeth wyth: Pawb sy’n 55 oed a hŷn.
- Grŵp blaenoriaeth naw: Pawb sy’n 50 oed a hŷn.
Bydd y cam hwn yn rhoi sicrwydd pellach i bobl Cymru na fydd neb yn cael ei adael ar ôl fel rhan o'r rhaglen frechu.
Mae bron i 40,000 o drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eisoes wedi derbyn o leiaf un dos o'r brechlyn, ac mae'n parhau i wneud cynnydd cryf yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.
Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David:
Bydd pobl ag anableddau yn cael manylion am sut y gallant drefnu i gael brechiad, tra bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ffurflen ar-lein ar gael i ofalwyr di-dâl yr wythnos nesaf y gellir ei llenwi a'i chyflwyno.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch bod yn gymwys i gael y brechlyn, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.