Gofal ger glan y môr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 21 Gorffennaf 2021
Gyda'r tywydd poeth ar ei anterth, mae hyd yn oed y dolffiniaid wedi bod yn ymweld â Phorthcawl ac yn mwynhau'r arfordir hyfryd yno.
Ac, wrth i'r tywydd cynnes barhau yr wythnos hon, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn atgoffa pobl i gymryd gofal ger glan y môr.
Mae'r dŵr o amgylch Bae Tywodlyd a Marina Porthcawl yn brysur tu hwnt pan geir tywydd braf, ac maent yn fannau poblogaidd ar gyfer gweithgareddau megis hwylio, canŵio, caiacio, gwyntsyrffio, syrffio barcud, padlfyrddio a nofio mewn dŵr agored.
Cyn plymio i'r dŵr
Waeth beth yw'r gweithgaredd, dylid gwirio rhagolygon y tywydd a chyflwr y môr ymlaen llaw, i sicrhau eu bod yn addas. Mae'n rhaid i bob darn o offer fod yn addas i'w ddefnyddio, a dylid marcio enw a manylion cyswllt yn glir arnynt. Dylid hefyd gwisgo siaced achub a siacedi hynofedd bob amser.
Dylai unrhyw un sy'n mynd i'r dŵr gyfarwyddo ei hun â mannau bas a rhwystrau siartredig, a rhoi gwybod i rywun ar y lan i ble'r ydych yn mynd. Dylid bod yn ymwybodol o offer a allai achosi niwed os cyffyrddir ynddynt - er enghraifft, byrddau, esgyll, ffunennau a hwyliau - a chadw pellter diogel oddi wrth eraill sydd yn y dŵr neu ar y traeth.
Mae dillad llachar, bwiau tynnu lliwgar a chapiau nofio yn eich helpu i fod yn amlwg yn y dŵr, ac argymhellir chi i ddefnyddio bag bach i gario eitemau fel radio, ffôn symudol, fflachiau neu dortsh.
Nofio
Peidiwch â nofio y tu hwnt i'ch gallu, ac osgowch nofio ar eich pen eich hun. Dywedwch wrth rywun ar y lan i ble'r ydych yn nofio a pha bryd y byddwch yn dychwelyd. Cofiwch fod yn ymwybodol o'r oerni, a'r effaith y gallai ei chael ar y corff yn y dŵr. Ceisiwch osgoi gwrthdrawiadau a damweiniau, ystyriwch beth fyddwch chi'n ei wisgo i sicrhau bod defnyddwyr eraill a chychod yn eich gweld chi, neu a oes angen bwi tynnu ai peidio.
Ymhlith y pethau y dylid eu hosgoi bob amser mae plymio neu neidio oddi ar strwythur i mewn i ddŵr nad ydych yn gwybod ei ddyfnder, nofio mewn cerrynt a llanw cryf, a nofio ar ôl yfed alcohol neu fwyta.
Peidiwch byth â nofio ger cwch sy'n symud neu o amgylch llong sydd wedi'i hangori gyda'i injan yn rhedeg, ac osgowch nofio ar draws sianel fynediad i farina bob amser.
Atgoffir ymwelwyr fod patrolau achubwyr bywyd ar waith ym Mae Treco, Bae Tywodlyd / Traeth Coney a Bae Rest rhwng 10am-6pm tan 5 Medi.
Cofiwch nofio rhwng baneri coch a melyn ar draethau lle mae achubwr bywyd yn bresennol. Os ydych yn mynd i drafferthion, gorweddwch ar eich cefn mewn siâp 'Arnofio i Oroesi', ymlaciwch, a gwrthodwch yr awydd i frwydro yn erbyn y dŵr.
Dylai unrhyw un sy'n gweld nofiwr mewn trafferthion ffonio 999 neu 112 mewn argyfwng a gofyn am Wylwyr y Glannau. Am fwy o fanylion, ewch i wefan RNLI.
Yn y marina
Wrth i gychod fynd a dod o Farina Borthcawl, mae cyfyngiad cyflymder pum-not ar waith o amgylch y fynedfa, ac mae'n rhaid i bob cwch fod yn gyfarwydd â hyn, a chydymffurfio â Rheoliadau Rhyngwladol ar gyfer Atal Gwrthdrawiadau ar y Môr.
Mae'n rhaid i gychod sy'n defnyddio'r marina hefyd gydymffurfio â rheoliadau perthnasol, yn cynnwys cyfarwyddiadau o swyddfa meistr yr harbwr. Cyn mynd i'r dŵr, mae angen i bob cwch ystyried yn ofalus y tywydd a chyflwr y llanw - ni fydd bob amser yn ddiogel cychwyn ar daith. Mae amseroedd llanw lleol ar gael ar wefan Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd).
Anogir pobl sy'n defnyddio badau dŵr eu hunain (Jet-sgis) i ddefnyddio'r ardal o amgylch Bae Newton.
Rydym eisiau sicrhau bod pawb sy’n teithio i Borthcawl yn flynyddol i fwynhau'r dŵr a’r arfordir yno yn cymryd rhagofalon cyfrifol i warchod eu hunain, gwarchod eraill a sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau’r ardal yn ddiogel.
Arweinydd y Cyngor, Huw David