Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Glanhau ar ôl Storm Arwen

Roedd yn rhaid i griwiau o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr weithio ddydd a nos yn ystod Storm Arwen i gadw ffyrdd ar agor ac i gadw cartrefi, pobl ac eiddo yn ddiogel.

Yn fuan ar ôl gwneud penderfyniad yn hwyr ddydd Gwener 26 Tachwedd i ganslo digwyddiad Llwybr Siôn Corn oedd wedi’i drefnu ar gyfer y penwythnos yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, dechreuodd gweithwyr ymateb i alwadau am wyntoedd cryfion yn rhwygo llechi oddi ar doeau busnesau lleol ar Stryd Wyndham a Stryd y Farchnad, yn ogystal ag eiddo ar Heol Coety ac ardaloedd megis Bracla.

Parhaodd y tywydd garw tan ddydd Sadwrn 27 Tachwedd, gyda gweithwyr yn ymateb i alwadau am stablau cyfan yn cael eu chwythu ar y B4281 yng Nghefn Cribwr, ffensys yn cwympo ar safle adeiladu yn Stryd y De, Pen-y-bont ar Ogwr, llinellau ffôn wedi torri yn Dock Street, Porthcawl, is-orsafoedd agored ar Ffordd Bracla, coeden Nadolig gymunedol oedd bron â disgyn yng Nghefn Cribwr, a ffensys wedi disgyn oedd yn effeithio ar y briffordd yn Tonna Road a Commercial Street ym Maesteg.

Roedd yn rhaid iddynt hefyd ddelio â choed oedd wedi disgyn a choed peryglus oedd yn rhwystro ffyrdd ac yn pwyso ar linellau a cheblau pŵer mewn 19 lleoliad a mwy, yn cynnwys ar hyd yr A48 ac yn Llandudwg, Ffordd Llangrallo, Heol Tondu, y Pîl, Lôn Roger, Sarn, Penyfai, Mynydd Cynffig, Gogledd Corneli, Merthyr Mawr, Maesteg, Coety, Ystâd Ddiwydiannol Forge, Pencoed, Brynmenyn, Broadlands, Heol Y Cyw a mwy.

Unwaith eto, mae staff y cyngor wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan ddefnyddio offer o beiriannau codi a llifau cadwyn i JCB a mwy er mwyn cadw ffyrdd yn glir, sicrhau bod traffig yn symud, cartrefi yn sych a bod pobl yn ddiogel.

Mae gweithwyr y cyngor yn mynd y tu hwnt i’r gofyn pan fydd tywydd garw fel hyn yn ein cyrraedd, ac rwyf eisiau diolch eto iddyn nhw am eu holl ymdrechion - mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr.

Dywedodd y Cynghorydd Stuart Baldwin, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Chwilio A i Y