Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gemau OlympAge yn lansio darpariaeth ychwanegol i bobl hŷn

Daeth dros 150 o bobl hŷn a phobl anabl at ei gilydd i fwynhau bore llawn hwyl o gemau a gweithgareddau yn rhaglen arloesi ‘Gemau OlympAge’ Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar.

Roedd y digwyddiad yn cyd-daro ag agoriad swyddogol ‘Hwb Llesiant Pen-y-bont ar Ogwr’ yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Halo Leisure a lansiad y prosiect ‘Super-Agers’. 

Bwriad y gemau yw datblygu cymunedau oed-gyfeillgar a chydnabod y manteision iechyd a llesiant wrth annog pobl hŷn i symud yn fwy aml. Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan adran Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr a Chwaraeon Cymru.

Ymunodd timau o grwpiau cymuned leol, lleoliadau gofal a chanolfannau dydd ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr â thimau o Rhondda Cynon Taf (RCT) a Merthyr i gystadlu mewn ystod o gemau a gweithgareddau ysgafn, fel bowlio modern, cyrlio modern, tennis bwrdd, pêl fasged a thaflu at dargedau.

Gyda chymorth gan y Gronfa Iach ac Egnïol, mae arweinwyr y gweithgareddau wedi bod yn ymweld â lleoliadau gofal yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr dros yr wythnosau diwethaf er mwyn amlygu pwysigrwydd symud. Mae’r bobl sydd wedi bod yn cymryd rhan wedi mwynhau’r cyfle i gymdeithasu a chystadlu mewn lleoliadau sy’n agos iddyn nhw.

Roedd dros 50 o fyfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol o Goleg Pen-y-Bont ar Ogwr yn ogystal ag arweinwyr ifanc o’r ysgolion uwchradd wrth law i roi cymorth i bobl gymryd rhan yn y gweithgareddau ar y diwrnod.

Dywedodd Ethan Paterson sy’n fyfyriwr cwrs Mynediad at Ofal Iechyd: “Rydw i wedi dysgu llawer wrth gael bod yn rhan o’r rhaglen OlympAge ac rydw i wedi mwynhau rhyngweithio â'r holl gystadleuwyr.

“Roedd yn braf gweld pa mor hapus ac egnïol oedd pawb! Os bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal eto’r flwyddyn nesaf fe fyddwn i wrth fy modd yn cael bod yn rhan ohono eto.”

Lansio Hwb Llesiant Pen-y-bont ar Ogwr yn swyddogol

Cafodd ‘Hwb Llesiant Pen-y-bont ar Ogwr’ sydd wedi derbyn cefnogaeth gan ‘Gronfa Gofal Integredig’ Llywodraeth Cymru hefyd ei agor yn swyddogol yn y digwyddiad.

Bydd yr hwb newydd sydd yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr yn fan lle gellir cael cymorth gyda chyflogadwyedd, atgyfeiriad i wneud ymarfer corff a chyfleoedd o fewn y gymuned, ac mae’n enghraifft o roi arloesi ar waith yn ein cymuned i fod o fudd i bobl hŷn.

Dywedodd yr Athro Marcus Longley, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a agorodd yr hwb llesiant newydd yn swyddogol ynghyd â’r Cynghorydd Stuart Baldwin, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

 “Rydyn ni’n falch o weld ein partneriaid wedi’u hymrwymo i’r agenda atal a llesiant ac yn cefnogi pobl i gynnal eu hiechyd a'u llesiant.

“Mae gan yr hwb yma a’r cyfleusterau a’r gwasanaethau eraill y potensial i ychwanegu gwerth sylweddol i’r gwasanaethau iechyd sydd wedi’u cyd-leoli’n gyfagos.

“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn i ni fod yn fwy cynaliadwy yn ein dull o weithredu ac yn fwy integredig yn ein gwaith. Mae’r prosiect yn enghraifft o gydweithio gwych ac mae’n dangos sut mae pethau’n gallu gweithio ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol, yn y trydydd sector ac yn y gymuned.”

Mae Gemau OlympAge eleni’n fwy arwyddocaol, am ein bod ni’n dathlu lansio'r prosiect ‘Super-Agers’ ac agoriad swyddogol ‘Hwb Llesiant Pen-y-bont ar Ogwr’.

Mae'r cyfleusterau a’r gwasanaethau yma’n mynd yr ail filltir i wella llesiant ein preswylwyr. Drwy annog pobl i symud yn fwy aml a chymdeithasu’n amlach, ein nod yw gwella llesiant corfforol a meddyliol pobl hŷn yn ein cymunedau yn ogystal â chymryd camau pwysig wrth fynd i’r afael ag unigrwydd a theimlo’n ynysig.

Mae’r hwb llesiant yn seiliedig ar fodel o ‘gampws’, lle mae ystod o wasanaethau byw’n iach o dan un to. Mae gwasanaethau cymorth gyda chyflogadwyedd hefyd wedi’u hintegreiddio yn yr hwb, gan sicrhau cymorth holistaidd i'r gymuned leol.

Stuart Baldwin, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dywedodd y Cynghorydd Baldwin wrth drafod lansio'r prosiect ‘Super-Agers’: “Mynd i’r afael ag unigrwydd a theimlo’n ynysig yw ein prif flaenoriaeth, wrth i ni wynebu realiti poblogaeth sy’n heneiddio.

Bydd y prosiect yma’n annog oedolion hŷn i symud mwy, a bydd disgwyl iddo helpu i ddatblygu cyfleoedd newydd gan arwain at hyfforddi pobl hŷn i arwain gweithgareddau yn ein cymunedau.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i’n partneriaid Halo Leisure, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Coleg Pen-y-Bont ar Ogwr a Chwaraeon Cymru sydd wedi gwneud digwyddiad a lansiad heddiw yn bosibl. Hoffwn ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg am eu cefnogaeth a’u buddsoddiad.”

Dywedodd Simon Gwynne, Rheolwr Partneriaethau Halo: “Rydyn ni’n wirioneddol falch bod Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr yn gartref i gymaint o weithgareddau a chyfleusterau gwerth chweil. Mae popeth rydyn ni’n ei wneud er budd cael mwy o bobl i symud mwy ac yn fwy aml, ac mae mentrau OlympAge a Super-Agers a’r Hwb Llesiant newydd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith hwnnw ac yn help i greu cymunedau iachach. Mae heddiw’n enghraifft fendigedig o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fo pobl, partneriaid a chymunedau’n dod at ei gilydd.”

Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol: "Mae’r rhaglenni ‘OlympAge’ a ‘Super-Agers’ wedi’u llunio i ddod â phobl at ei gilydd mewn amgylchedd hwyliog.

“Eleni, fe wnaethom groesawu gweithgareddau ein ‘OlympAge Diwylliannol’ cyntaf drwy ein partneriaeth ag Awen, gan gydnabod y rôl bwysig y gall diwylliant ei chwarae er mwyn cefnogi llesiant meddyliol. Cawsom hefyd weld drama wedi’i pherfformio gan ‘Men’s Sheds’ Caerau a Phontycymer, a fu’n destun mwynhad ymysg pawb fu’n ei gwylio."

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â rhaglen ‘OlympAge’, cysylltwch ag adran Atal a Llesiant y cyngor ar 01656 815215 neu e-bostiwch jane.thomas@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y