Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Galw brys am ofalwyr i helpu pobl mewn angen

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn galw ar bobl i ymuno â'r proffesiwn gofalu a helpu i gefnogi pobl mewn angen yn ystod pandemig y coronafeirws.

Mae nifer o rolau cyflogedig ar gael yn gweithio i’r awdurdod lleol.

Gwahoddir ceisiadau gan unrhyw un sydd wedi gweithio yn y sector gofal cymdeithasol o'r blaen neu sydd â sgiliau trosglwyddadwy.

Mae gofal cymdeithasol yn waith hanfodol a buddiol sydd wir yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl leol. Gan ddibynnu ar y rôl, nid oes bob amser angen i chi fod â chymwysterau neu brofiad gwaith blaenorol mewn gofal cymdeithasol er mwyn cael swydd gyda'r cyngor.

Yr hyn sy'n bwysig iawn yw meddu ar y gwerthoedd, ymddygiad ac ymagwedd gywir i weithio'n effeithiol gyda phobl y mae angen gofal a chymorth arnynt. Dyma gyfnod unigryw yn ein hanes ac mae angen ein cymorth a'n cefnogaeth ar lawer o bobl.

Rydym yn gofyn i bawb sydd â diddordeb mewn helpu i ofalu am bobl mewn angen a'u cefnogi gysylltu â ni.Oherwydd yr angen brys am ofalwyr, rydym wedi rhoi proses ymgeisio gyflym ar waith gyda chwrs gloywi cyflym i bobl sydd newydd orffen rôl debyg neu sydd wedi ymgymryd â rôl debyg ychydig flynyddoedd yn ôl.

Phil White, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol

Mae'r awdurdod lleol yn rhoi cymorth i fwy na 4,000 o drigolion mewn cartrefi gofal ar draws y fwrdeistref sirol ac yn eu cartrefi eu hunain.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu am gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm recriwtio drwy ffonio 01656 643205 neu drwy e-bostio recruitment@bridgend.gov.uk

Gallwch hefyd fynd i https://www.bridgend.gov.uk/cy/fy-nghyngor/swyddi/swyddi-gwag-ym-maes-gofal-cymdeithasol i bori drwy swyddi gofal cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chyflwyno cais amdanynt neu gael mwy o wybodaeth drwy wylio fideos o bobl leol yn esbonio eu rôl mewn gofal cymdeithasol.

Yn y cyfamser, dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli mewn rolau amrywiol yn y gymuned gysylltu â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO).

Gall pobl gofrestru eu diddordeb yn gyntaf gyda BAVO ac yna gael eu paru â rôl yn seiliedig ar eu sgiliau, eu diddordebau a'u profiad.

Bydd unrhyw un sy'n cofrestru'n gallu cael mynediad i hyfforddiant ar-lein am ddim fel rheoli heintiau, diogelu, iechyd a diogelwch, codi a chario, gwerthoedd gofalu, a hylendid bwyd.

Gall y sefydliad hefyd ymgymryd â gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn cefnogi gwasanaethau rheng flaen fel ysbytai neu wasanaethau plant ac oedolion.

Fel arall, gall BAVO eich cysylltu â grwpiau lleol i ddarparu cymorth pan fydd ei angen, a'ch cysylltu ag eraill yn y gymuned.

Chwilio A i Y