Galw am landlordiaid preifat ar gyfer cynllun gosod
Poster information
Posted on: Dydd Llun 06 Medi 2021
Gwahoddir landlordiaid preifat sydd â diddordeb mewn gosod eu heiddo ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ymuno â chynllun lle defnyddir eu heiddo fel llety dros dro.
Mae Cartrefi Hafod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y cynllun gosod rhent preifat, sy’n cynnig cytundebau gosod rhwng un a thair blynedd.
Cynigir incwm rhentu gwarantedig i landlordiaid drwy gydol y contract, ac fe’i delir yn fisol mewn ôl-ddyledion. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys gwasanaeth rheoli llawn a gwasanaeth atgyweirio 24/7.
Dywedodd Nicola Meredith, Syrfëwr Caffael Eiddo yn Hafod: “Fel rhan o Hafod, landlord cymdeithasol cofrestredig gyda dros 50 mlynedd o brofiad yn rheoli, gosod a chynnal a chadw eiddo, mae Cartrefi Hafod yn darparu datrysiadau tai dros dro ar gyfer unigolion a theuluoedd digartref a gyfeiriwyd atom gan yr awdurdod lleol.
“Wrth osod eich eiddo gyda Cartrefi, byddwch yn derbyn buddion megis gwasanaeth atgyweirio 24/7 ac nid oes ffioedd paratoi na gwaith cynnal a chadw gardd.
“Rydym yn ymgymryd â’r holl swyddogaethau rheoli, megis casglu rhent, atgyweiriadau, ail-osod, arolygon eiddo a byddwn yn ymgymryd â gweithdrefnau llys, lle bo angen, fel rhan o’r gwasanaeth hwn. Rydym hefyd yn gweithio fel pwynt cyswllt ar gyfer cymdogion. Ni chodir tâl arnoch am unrhyw rai o’r rhain am eu bod nhw’n rhan o’n gwasanaeth di-drafferth.
“Fel rhan o’r cynllun, mae landlordiaid yn gyfrifol am yr holl atgyweiriadau strwythurol ac allanol, gosodion a ffitiadau. Maent hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod gwiriadau diogelwch nwy a thrydan yn cael eu cynnal yn flynyddol, a gall Cartrefi Hafod helpu gyda hyn. Gallant hefyd ddarparu amcan brisiau a chontractwyr i gwblhau atgyweiriadau i landlordiaid, sy’n gwneud popeth yn haws i chi.
Mae Cartrefi Hafod yn dod o hyd i eiddo gan landlordiaid i'w ddefnyddio fel llety dros dro ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â Chaerffili, Rhondda Cynon Taf a Dyffryn Morgannwg.
Mae galw mawr am lety dros dro ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd a bydd y cynllun hwn yn gweithio gyda’r sector preifat i helpu i sicrhau bod y rhai sydd angen cartref yn gallu dod o hyd i un.
Gall landlordiaid preifat sy’n gweithio gyda Cartrefi Hafod helpu i leihau digartrefedd drwy ddarparu cartref dros dro mawr ei angen ar gyfer teulu neu unigolion wrth iddynt ddisgwyl am lety parhaol.
Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cartrefi Hafod