Galw am farn ar y Polisi Trwyddedu newydd
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 19 Mehefin 2019
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn diweddaru ei Bolisi Trwyddedu ar gyfer 2019-2024 ac mae’n galw am eich barn ar ei nodau, ei gynigion a’i flaenoriaethau. Caiff y polisi ei adolygu bob pedair blynedd ac mae’n seiliedig ar bedwar prif amcan:
- Atal troseddau ac anrhefn.
- Atal niwsans cyhoeddus.
- Hybu diogelwch y cyhoedd.
- Diogelu plant rhag niwed.
Mae’r cyngor hefyd yn ymgynghori ar asesiad o’r effeithiau cronnus, sydd wedi cael ei lunio i gynnal y cydbwysedd cywir o eiddo trwyddedig mewn ardal, a hynny er mwyn rheoli materion fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, effeithiolrwydd trafnidiaeth gyhoeddus, taflu ysbwriel a niwsans cyhoeddus.
Ar ôl cael ei fabwysiadu, bydd yr asesiad o'r effeithiau cronnus yn dylanwadu ar roi trwyddedau i lefydd fel tafarnau, bwytai, lleoliadau adloniant, lleoliadau diwylliannol, clybiau nos, siopau tecawê lluniaeth hwyr yn y nos, siopau diodydd trwyddedig ac adeiladau clwb.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 18 Medi ac mae modd ei gwblhau ar-lein yn ymgynghoriadau. Mae copïau papur a gwahanol fformatau ar gael hefyd drwy ffonio 01656 643664 neu e-bostio consultation@bridgend.gov.uk