Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gallai cyllid y Fargen Ddinesig agor safle ar gyfer ailddatblygu

Gallai gwaith adfer mawr ddechrau ar safle adfeiliedig ym Maesteg cyn bo hir, os sicrheir y grant Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gwerth £3.5m.

Mae’r hen safle Budelpack COSi a Cooper Standard ar Ystâd Ddiwydiannol Heol Ewenni wedi bod yn wag ers dros ddegawd, er gwaethaf ymdrechion parhaus i’w adfywio dros y blynyddoedd, gan gynnwys clirio’r safle, gwaith archwiliadol a chaniatâd cynllunio ar gyfer un cynllun yn benodol.

Mae'r safle 20 erw yn anymarferol oherwydd y costau sylweddol sydd eu hangen i baratoi’r safle'n i'w ddatblygu. Er enghraifft, mae angen gwneud gwaith seilwaith sylweddol i ddargyfeirio draen mwyngloddio hanesyddol ac ôl-lenwi sawl twll cloddio.

Fodd bynnag, gallai'r safle gael ei ddatgloi'n fuan i'w ailddatblygu os bydd yr awdurdod lleol yn llwyddiannus yn ei gais am grant Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a allai ariannu'r gwaith adfer.

Mae’r safle yn un o naw prosiect ar y rhestr fer i dderbyn cyllid fel rhan o Gronfa Bwlch Hyfywedd Bargen Ddinesig Prif-ddinas-Ranbarth-Caerdydd gwerth £30 miliwn, gyda’r penderfyniad yn cael ei wneud ar 15 Mawrth. Os yw’n cael ei gymeradwyo, bydd swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm Bargen Ddinesig dros y misoedd nesaf i sicrhau bod meini prawf allweddol yn cael eu bodloni i sicrhau’r grant llawn.

Bydd unrhyw elw o werthu'r tir sy'n eiddo'n rhannol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei ailfuddsoddi yn Nyffryn Llynfi gyda chynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys cyfleuster parcio a theithio a hwb menter.

Chwilio A i Y