Gall prosiect Arddangosydd Hydrogen ddod â buddsoddiad gwerth £26 miliwn i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 22 Mehefin 2022
Cafodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddiweddariad ynghylch y prosiect Arddangosydd Hydrogen, a chawsant wybod y gallai'r cynllun ddod â buddsoddiad gwerth £26 miliwn i'r fwrdeistref sirol.
Mae'r prosiect arfaethedig yn golygu byddai gan Ben-y-bont ar Ogwr y cyfle i arddangos ei arweinyddiaeth yn y maes gwella technoleg werdd.
Cyhoeddwyd yn flaenorol bod yr arbenigwyr ynni adnewyddadwy o Japan, Marubeni Europower, wedi dewis Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel y lleoliad delfrydol yn y DU i gynnal prosiect arddangosydd hydrogen gwyrdd, a allai weld cynlluniau fel cynhyrchu tanwydd glân ar gyfer cerbydau fflyd, yn amrywio o gerbydau graeanu’r cyngor i loriau casglu gwastraff ac ailgylchu.
Gallai'r prosiect hwn hefyd gynnig buddion posibl ar gyfer Awdurdodau Lleol eraill yn ne Cymry, yn ogystal â phartneriaid yn y sector cyhoeddus fel Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Mae gan y cynllun y potensial i ddod â chyfanswm o £26 miliwn mewn cyllid buddsoddi allanol i'r fwrdeistref, gyda £13miliwn yn dod gan Marubeni, a £13miliwn gan Sefydliad Datblygu Ynni Newydd (NEDO) Llywodraeth Japan. Byddai hyn yn helpu i ddatblygu system rheoli ac ynni lleol unigryw, yn cynnig ynni a gwres cost isel a gwyrdd.
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd hefyd wedi cytuno ystyried y cyfle i fuddsoddi, mewn egwyddor, ar ôl derbyn cynnig manwl, ac yn ymgysylltu â'r prosiect. Ar ôl cyflwyno'r cyfle, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn awyddus i weld y prosiect yn cael ei wireddu, ac yn barod i gefnogi'r datblygiad.
Er mwyn symud datblygiad manwl y prosiect ymlaen, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn llofnodi memorandwm o ddealltwriaeth, nad yw'n ei rwymo, gyda Chorfforaeth Marubeni.
Dyma gyfle gwych i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fod yn arweinydd go iawn yn y maes gwella technoleg werdd, ac mae'n wych y byddai'r prosiect yn helpu i ddod â chyllid allanol sylweddol i'r ardal.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda Marubeni ymhellach, a gobeithio gall y cynllun hwn gynnig sawl budd, nid yn unig i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ond i Gymru'n gyffredinol. Mae hyn hefyd yn ategu ein hymrwymiad i strategaeth Carbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau