Gall pobl 35-39 oed wneud cais i fod ar y rhestr brechlynnau wrth gefn
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 16 Ebrill 2021
Trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 35 a 39 oed yw'r diweddaraf a all wneud cais i gael brechiadau wrth gefn ar fyr rybudd.
Mae'r cynnig, sydd ar gael i bobl sy'n gallu mynd i apwyntiad brechu Covid-19 o fewn awr i gael eu hysbysu, wedi'i sefydlu i sicrhau nad yw brechiadau'n mynd i wastraff oherwydd bod pobl ddim yn dod i’w hapwyntiad neu’n canslo.
Mae ffurflen ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg y gall pobl ei llenwi i gael eu hychwanegu ar y rhestr wrth gefn.
Ni fydd y newid yn effeithio ar frechlynnau i breswylwyr mewn grwpiau blaenoriaeth un i naw, gyda'r bwrdd iechyd yn hyderus y bydd pawb yn y grwpiau hyn wedi cael cynnig o leiaf un dos o'r brechlyn erbyn diwedd yr wythnos.
Anfonwyd llythyrau at bawb o fewn grwpiau un i naw a dylent fod yn cyrraedd yn fuan.
Hyd yn hyn, mae mwy na 89,000 o drigolion Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu brechu.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wirio a ydych yn gymwys i ymuno â’r rhestr wrth gefn, llenwch y ffurflen ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.