Gall cynlluniau gwerth £17m ar gyfer croesfan a phont newydd fod yn ‘newid byd’ i Bencoed.
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 05 Tachwedd 2021
Bwriedir cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cynlluniau a all drawsnewid canol tref Pencoed a chyflwyno’r gwelliannau seilwaith trafnidiaeth mwyaf erioed ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rhwng dydd Llun 8 Tachwedd 2021 - dydd Sul 30 Ionawr 2022, bydd pobl yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar y cynlluniau uchelgeisiol i fynd i’r afael â phroblemau tagfeydd traffig hirdymor ym Mhencoed, sydd wedi atal datblygiad newydd a buddsoddiad economaidd rhag digwydd.
Os cânt eu cymeradwyo, bydd y cynlluniau gwerth £17m yn galluogi cau croesfan reilffordd Pencoed yn y pendraw, drwy ailadeiladu pont ffordd Penprysg i fod yn addas ar gyfer llif traffig dwy ffordd, a chreu pont teithio llesol newydd sbon dros y rheilffordd ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Bydd y cynlluniau hefyd yn cynnig tir datblygu posibl i’r gorllewin o’r groesfan bresennol ac yn galluogi buddsoddiad a chyfleusterau newydd.
Yn cynnwys arolwg sydd ar gael ar ystod o wahanol ffurfiau a chyfres o ddigwyddiadau galw heibio, lle gall pobl ddysgu mwy a gofyn cwestiynau, bydd adborth o’r ymgynghoriad yn cael ei ddadansoddi a’i adrodd i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol. Bydd y sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal yn:
- Dydd Mawrth 9 Tachwedd– Campws Pencoed Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, 2pm-4pm.
- Dydd Sadwrn 13 Tachwedd- Pafiliwn Pencoed, Ffordd Felindre, 10am-12pm.
- Dydd Llun 15 Tachwedd- Cyngor Tref Pencoed (Capel Salem), 6pm-8pm.
- Dydd Gwener 3 Rhagfyr - Llyfrgell Pencoed, 10am-12pm.
Gallwch ddysgu mwy, cael atebion i gwestiynau cyffredin a chwblhau arolwg yr ymgynghoriad ar-lein ar wefan y cyngor, neu gallwch ofyn am ffurf wahanol drwy e-bostio consultation@bridgend.gov.uk, ffonio 01656 643664 neu ysgrifennu at Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Dywedodd y Cynghorydd Stuart Baldwin, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau: “Fel un o bedwar canol tref o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae Pencoed yn unigryw yn y ffaith bod ei dwy prif ffordd yn croesi rheilffordd Abertawe i Lundain.
“O ganlyniad i hynny, mae’r rhwydwaith priffyrdd lleol dan straen sylweddol oherwydd bod angen i draffig giwio un ai wrth y groesfan neu i ddefnyddio’r bont ym Mhenprysg, sydd ond yn gallu gwasanaethu cerbydau i un cyfeiriad ar y tro ar hyn o bryd.
“Mae effaith y tagfeydd yn cyfyngu ar allu’r dref i dyfu yn y dyfodol, yn cael effaith negyddol ar yr economi ac yn creu problemau llygredd ac amgylchedd.
“Mae hyn hefyd yn achosi problemau ychwanegol, yn amrywio o oedi ar gyfer gwasanaethau bysiau masnachol, i fynediad addas i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn, beiciau a phramiau.
“Nod y cynigion hyn yw lleddfu problemau tagfeydd y dref, gwella diogelwch a chynnig gwelliannau newydd i drigolion a busnesau drwy wahanu’r ffordd oddi wrth y rheilffordd.
“Maent wedi’u datblygu’n ofalus mewn partneriaeth grŵp llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned leol, Chris Elmore AS, Huw Irranca-Davies AS, yr awdurdod lleol, Llywodraeth Cymru, Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Tref Pencoed.
“Mae’r cynlluniau’n cynrychioli un o’r buddsoddiadau mwyaf erioed i seilwaith trafnidiaeth lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a byddai unrhyw waith yn cael ei drefnu’n ofalus er mwyn lleihau ar y tarfu dros dro.
“Pe bai’n cael ei gymeradwyo, gall hyn fod yn newid byd ar gyfer Pencoed, felly rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn defnyddio’r sesiynau galw heibio i ddysgu mwy ac yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad pan gaiff ei lansio ddydd Llun 8 Tachwedd.
Ychwanegodd Bill Kelly, Cyfarwyddwr Llwybrau ar gyfer Network Rail Cymru a’r Gororau: “Rydym wedi bod yn gweithio’n agos â chynrychiolwyr etholedig lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ddyfodol Croesfan Pencoed. Dyma gyfle i bobl leol ddweud eu dweud, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed yr adborth.”