Gall busnesau helpu i wneud Porthcawl yn dref diblastig
Poster information
Posted on: Dydd Llun 16 Medi 2019
Gofynnir i fusnesau ym Mhorthcawl gydweithredu er mwyn cefnogi’r amgylchedd drwy leihau eu defnydd o blastigau untro.
Mewn ymgais i wneud Porthcawl yn dref diblastig, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymuno â Chyngor Tref Porthcawl a Surfers Against Sewage i ofyn i fusnesau lleol beidio â defnyddio o leiaf tri o eitemau plastig.
Mae eitemau plastig fel gwellt, poteli a chaeadau, cytleri, cydau saws, cwpanau yfed a chaeadau a bagiau, ynghyd â phecynnau eraill a ddefnyddir oddi cartref ymysg y tramgwyddwyr mwyaf wrth ystyried sbwriel, ac mae gormod ohonyn nhw’n niweidio’r blaned ar ôl iddyn nhw lanio yng nghefnforoedd y byd.
Mae dwsinau o fusnesau eisoes wedi cofrestru i wneud eu rhan. Ymysg y rhai hynny sy’n gweithredu mae Finnegans Fish Bar, sydd wedi dechrau defnyddio bagiau papur yn lle bagiau plastig, tra bod y Side Walk Café a bwyty’r Cosy Corner wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio gwellt plastig.
Yn ogystal, mae’r Side Walk Café wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cytleri plastig, trowyr plastig a chydau saws. Dywedodd y perchennog, Claire Wootton:
Caffi bychan annibynnol sydd gennyf i, ac felly mae cyfyngiad ar yr hyn a allaf ei wneud ar ben fy hun, ond rydw i’n wirioneddol hapus i wneud fy rhan a helpu i leihau’r ddibyniaeth ar blastigau untro.
Claire Wootton Side Walk Café
Drwy weithredu yn gadarn ar y cyd yn unig y gallwn ni atal y llygredd plastig rhag llethu ein byd.
Mae grŵp cymunedol eisoes wedi cael ei ffurfio, sef Porthcawl Diblastig, yn ogystal â Chadw Porthcawl yn Daclus a grwpiau gwirfoddol eraill amrywiol sy’n pryderu am ein hamgylchedd, ac felly mae awydd gwirioneddol i hyrwyddo’r achos hwn a gwneud Porthcawl yn un o’r cymunedau cyntaf yng Nghymru i fod yn ddiblastig.
Mae nifer o fusnesau yn cymryd camau bychain i wneud gwahaniaeth mawr, ac rydw i’n wirioneddol obeithiol y bydd llawer mwy yn gwneud yr un peth cyn bo hir.
Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn gwahodd busnesau Porthcawl i fynychu gweithdy rhad ac am ddim lle gallan nhw ddarganfod mwy ynglŷn â’r pwysigrwydd o leihau’r defnydd o bolystyren a phlastigau.
Mae’r awdurdod lleol hefyd yn awyddus i annog mwy o fusnesau i gofrestru i dderbyn yr ap ‘Refill’, sy’n dangos lle gall pobl lenwi eu poteli amldro gyda dŵr tap rhad ac am ddim.
Ar hyn o bryd, mae gormod o blastig diangen yn cael ei ddefnyddio drwy’r byd. Cynhaliwyd arolygon gan ddisgyblion ysgol yn gynharach eleni a oedd yn datgan mai plastig yw’r deunydd sy’n cael ei daflu ymaith fwyaf ar strydoedd a thraethau Porthcawl.
Hyd yn oed os na chafodd y gwastraff plastig ei adael ar y traeth, yn aml gall gyrraedd y traeth oherwydd bod dŵr glaw a’r gwynt yn ei gario o’r strydoedd i mewn i nentydd, afonydd a draeniau, sydd i gyd yn arwain at y cefnfor. Unwaith y mae’r plastig yn y môr, mae’n pydru yn araf iawn, gan ddadelfennu i ddarnau bychain sy’n cael eu hadnabod fel microblastigau a all fod yn anhygoel o niweidiol i fywyd y môr.
Mae’r hen fantra o ‘leihau, ailddefnyddio, ailgylchu’ yn bwysig iawn yma. Mae’n rhaid dewis ailgylchu ein heitemau plastig lle bynnag y bo’n bosibl, cario potel amldro ar gyfer ei llenwi gyda dŵr oddi cartref, a lleihau faint o blastig untro yr ydym yn ei ddefnyddio yn ein bywydau bob dydd.
Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â’r uchelgeisiau i wneud Porthcawl yn dref ddiblastig, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 643452 neu anfonwch e-bost at cleanupthecounty@bridgend.gov.uk. Er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â’r ap Refill, ewch i https://refill.org.uk os gwelwch yn dda.