Gall babanod a anwyd yn ystod y pandemig gael eu cofrestru bellach
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 10 Gorffennaf 2020
Mae apwyntiadau bellach ar gael yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr i rieni nad ydynt wedi gallu cofrestru genedigaeth eu babanod a anwyd yn ystod cyfnod y coronafeirws COVID-19 yn ogystal â chyplau sy'n dymuno rhoi hysbysiad am briodas neu bartneriaeth sifil sydd ar ddod.
Bydd apwyntiadau ar gael o ddydd Llun 13 Gorffennaf yn adeilad newydd Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr yn y Swyddfeydd Dinesig ar Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae modd gwneud apwyntiad drwy ffonio 01656 642391 neu drwy e-bostio registrar@bridgend.gov.uk
Sylwer, tra bod y pandemig yn parhau, dim ond drwy apwyntiad y bydd modd mynd i Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr ac nid oes gwasanaeth galw heibio ar gael ar hyn o bryd. Unwaith y bydd apwyntiad wedi cael ei drefnu, bydd modd cael mynediad i Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr drwy fynedfa'r seremoni, sydd wedi'i lleoli ar ochr y Swyddfeydd Dinesig.
Yn ogystal â bod yn brif bwynt cyswllt i gofrestru genedigaethau a marwolaethau, mae Swyddfa Gofrestru newydd Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei haddasu'n arbennig i gynnal priodasau dwyieithog, partneriaethau sifil, seremonïau dinasyddiaeth, adnewyddu addunedau, dathliadau enwi babanod a mwy.
Mae'r adeilad newydd hollol hygyrch yn cynnwys ystafell seremoni sy'n gallu dal hyd at hanner cant o westeion, ac mae'n cynnwys system sain a goleuadau newydd i helpu i greu'r awyrgylch perffaith. Mae wi-fi gwell a dolen glyw wedi cael eu gosod hefyd i helpu gwesteion i rannu eu hachlysur arbennig gyda theulu a ffrindiau.
Gan ddibynnu ar y canllawiau cenedlaethol sydd ar waith ar y pryd, mae'r cyngor yn rhagweld y bydd priodasau a seremonïau eraill yn gallu cael eu cynnal yn yr adeilad newydd o 24 Awst. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i gefnogi’r broses o roi tystysgrifau o'r dyddiad hwn.
Mae digwyddiadau yn hen adeilad Tŷ'r Ardd ger Sunnyside yn gallu cael eu cynnal yn y cyfamser, ond oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws a gofynion cadw pellter cymdeithasol, mae cyfyngiadau llym ar sawl unigolyn sy'n gallu bod yn bresennol.
Rwy'n siŵr y bydd preswylwyr yn croesawu'r cyfle hwn i gofrestru genedigaeth eu babanod newydd neu gymryd y camau cyntaf tuag at briodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil. Ers i'r cyfyngiadau symud ddod i rym, cafwyd mwy na 700 o enedigaethau yn y fwrdeistref sirol, ac mae oddeutu 200 o briodasau a seremonïau wedi gorfod cael eu canslo neu eu gohirio.
I gefnogi'r cyplau wrth iddynt aildrefnu eu diwrnod mawr, mae'r cyngor yn diddymu ffioedd hysbysu i unrhyw un sydd wedi gorfod gohirio ei seremoni oherwydd y pandemig. Mae ein cofrestryddion wedi bod yn gweithio'n agos gyda chyplau i aildrefnu gwasanaethau ar gyfer dyddiadau newydd ac maent wedi dweud wrth bawb yr effeithiwyd arnynt.
Rwy'n edrych ymlaen at weld Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr ar ei newydd wedd yn cael ei datgelu fel rhan o'i hagoriad swyddogol unwaith y bydd cyfyngiadau'r pandemig wedi cael eu llacio
Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol