Ffilm disgyblion yn cyrraedd y sgrin fawr!
Poster information
Posted on: Dydd Iau 26 Gorffennaf 2018
Roedd carped coch y tu allan i Odeon Pen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf ar gyfer premiere ‘Dragon Hunters’, ffilm a gynhyrchwyd gan grŵp o ddisgyblion blwyddyn 6 a fydd yn symud i Ysgol Gyfun Maesteg ym mis Medi.
Datblygwyd y prosiect gan athrawon chwe ysgol gynradd - Llangynwyd, Caerau, Nantyffyllon, Cwmfelin, Garth a Plasnewydd - yn ogystal â staff o Ysgol Gyfun Maesteg. Roedd y prosiect yn cynnwys amrywiaeth o dasgau creadigol a thasgau ymchwil a arweiniodd at yr uchafbwynt, sef y plant yn gweld eu hunain ar y sgrin.
Am brofiad anhygoel; gweld eich hun mewn ffilm! Yn ogystal â’r ffilm ei hun, roedd y disgyblion wedi cynhyrchu casgliad o waith trawiadol ar gyfer y prosiect hwn. Yn amlwg mae’r prosiect wedi dal eu dychymyg a dylai rhieni ac athrawon deimlo’n falch iawn o ymdrech a brwdfrydedd y disgyblion. Roedd y daith hon i’r sinema yn ffordd benigamp o ddathlu diwedd y tymor ac i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled. Ar ran yr ysgolion, hoffwn ddiolch i’r Odeon am gynnal y premiere am ddim.
Cynghorydd John McCarthy, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Roedd y prosiect ‘Dragon Hunters’ yn un o lawer o fentrau arloesol ysgolion a arddangoswyd yng ‘Ngŵyl Ddysgu’ gyntaf un Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mehefin.