Ffilm democratiaeth gan fyfyrwyr wedi'i henwebu ar gyfer gwobr genedlaethol
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 19 Chwefror 2019
Mae gwneuthurwyr ffilm ddogfen o ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cystadlu am wobr yn yr ‘Into Film Awards’ yn Llundain fis nesaf.
Gwnaeth myfyrwyr o Ysgol Bryn Castell weithio gyda Ffilm Cymru i greu ffilm fer am ddemocratiaeth sydd wedi'i henwebu yn y categori 'Ffilm Ddogfen Orau' yn y seremoni wobrwyo sy'n cael ei chynnal yn yr Odeon yn Leicester Square ddydd Llun 4 Mawrth.
Gyda chanolbwynt cerddorol, mae’r ffilm yn dilyn grŵp o fyfyrwyr sy’n manylu ar y newidiadau - mawr a bach - y maen nhw'n addo eu gwneud yn eu bywydau, cyn ymweld â swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i siarad â chynghorwyr ac Aelodau Seneddol ynglŷn â'r newidiadau y maen nhw'n gobeithio eu gwneud hefyd.
Dywedodd Helen Ridout, Pennaeth Ysgol Bryn Castell: "Mae disgyblion Ysgol Bryn Castell yn gwneud imi deimlo'n falch bob dydd ac rwy'n teimlo'n freintiedig i fod yn rhan o'u taith addysgol a'u gwylio yn tyfu a datblygu dros amser.
"Mae'r ffilm hon yn crynhoi'r hyn sy'n bosibl pan mae pobl yn credu yn ein pobl ifanc gwych ac ysbrydoledig, ac yn gweithio gyda'i gilydd i'w galluogi i fwynhau llwyddiant a chyflawni’r gorau oll; mae pob disgybl a gymerodd ran yn y ffilm hon wedi datblygu ei hyder a'i sgiliau ynghylch cyfathrebu a chydweithio ag eraill ac yn bwysicaf oll, wedi magu hyder yn ei alluoedd ei hunan!
Arwyddair ein hysgol ni yw 'Gyda'n Gilydd Gallwn Lwyddo', ac rwy'n teimlo fel y Pennaeth mwyaf balch yn yr holl fyd pan rwy’n meddwl am yr hyn sydd wedi'i gyflawni drwy gymryd rhan yn y prosiect hwn."
Mae ‘Into Film’ yn elusen addysgol sy'n anelu at roi’r sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau sydd eu hangen ar athrawon i gefnogi dysgu drwy ffilm ac ynglŷn â ffilm. Mae'n annog ac yn helpu ysgolion i redeg clybiau ffilm, yn ysbrydoli athrawon i ddefnyddio ffilm yn yr ystafell ddosbarth, cynhyrchu adnoddau sy'n berthnasol i'r cwricwlwm a chynnal digwyddiadau a arweinir gan y diwydiant i gynyddu dyheadau ac agor drysau i'r sector.
Gan ein bod yng nghanol y tymor gwobrau ffilm byd-eang, mae'n hynod o gyffrous gweld y bydd disgyblion o Ysgol Bryn Castell yn arddangos eu talentau ochr yn ochr â gwneuthurwyr ffilmiau, adolygwyr ac addysgwyr eraill ar draws y DU. Maent yn magu sgiliau arbennig newydd wrth weithio â ffilm ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y gwobrau.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David