Ffeiriau crefft rheolaidd yn parhau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 28 Chwefror 2019
Newyddion da i grefftwyr lleol! Bydd canolfan grefft a ffurfiwyd yn ddiweddar, sef Cydweithfa Grefftau Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnal ffeiriau crefft rheolaidd yng Nghanolfan Ymwelwyr Bryngarw ar y dydd Sadwrn cyntaf o bob mis, gan ddechrau ddydd Sadwrn 2 Mawrth (11am i 4pm).
Ar ôl dwy ffair grefft lwyddiannus yng Nghanolfan Ymwelwyr Bryngarw ar ddiwedd 2018, disgwylir i'r digwyddiadau barhau trwy gydol eleni gyda mwy byth o fusnesau crefft lleol bellach yn cymryd rhan.
Trefnir y digwyddiadau hyn gan dîm Datblygu Gwledig Reach Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a gefnogir trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014–2020, ac maent yn cael eu hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Nod y prosiect yw annog gwerthiant ar draws amrediad eang o eitemau crefft sydd wedi eu gwneud â llaw, o bobi crefft, cynhyrchion gwallt fegan o waith llaw a gemau gwydr y môr, i waith seramig ac offerynnau cerddoriaeth wedi’u gwneud â llaw – disgwylir i'r digwyddiadau fod yn llwyddiant ysgubol.
Hefyd bydd arddangosiadau crefft bob awr o 11am, yn ogystal â digonedd i ddiddanu’r plant. Bydd lluniaeth hefyd ar gael i'w brynu o'r caffi ar y safle.
Mae'r digwyddiadau hyn yn cyrraedd ar ôl i bum canolfan grefft gael eu sefydlu'n ddiweddar ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o fenter newydd gwerth £61,000 sydd â’r nod o greu swyddi a chreu cyfleoedd lle gall pobl gymdeithasu, rhannu eu sgiliau a gwella eu galluoedd.
Yn dilyn eu llwyddiant diweddar, mae dwy ganolfan newydd sbon wedi'u hychwanegu yn Lewistown a Mynyddcynffig, i drigolion Uned Gofal Ychwanegol Llys Ton. Mae canolfannau hefyd wedi'u lleoli ar safleoedd yn Abercynffig, Pontycymer, Cwm Ogwr, Drenewydd yn Notais a Gogledd Corneli.
Mae ein canolfannau crefft ar agor i bawb, pe gennych brofiad blaenorol o wneud crefftau ai peidio. Y rhan bwysig yw'r cyfle i gymdeithasu a chael sgwrs wrth wneud rhywbeth sy’n rhoi pleser i chi.
Gall aelodau ddod â'u prosiectau eu hunain gyda nhw i weithio arnynt, neu ymuno yn beth bynnag sy'n digwydd ar y diwrnod. Mae te a choffi bob amser ar gael felly byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn crefftau i ddod am dro i un o'n canolfannau ac ymuno yn yr hwyl!
rheolwr y prosiect, Alison Westwood
Mae'r gydweithfa grefftau hefyd yn gobeithio darparu mwy o gyfleoedd i grefftwyr trwy gydol yr haf, gyda llwybr crefftau arfaethedig o gwmpas Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr lle gall y cyhoedd weld crefftwyr wrth eu gwaith a gweld llawer o weithiau celf a chrefft sydd wedi’u gwneud â llaw.
I gael mwy o wybodaeth am Gydweithfa Grefftau Pen-y-bont ar Ogwr, digwyddiadau sydd ar y gweill a sut i gymryd rhan, ewch i www.craftbridgend.org.uk/?lang=cy, neu chwiliwch am 'Bridgend Craft Collective' ar Facebook neu '@BridgendCraft' ar Twitter.