Ffair Grefftau’r Hydref ym Mharc Bryngarw
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 17 Hydref 2018
Bydd ffair grefftau’r hydref yn cael ei chynnal yn y Ganolfan Ymwelwyr ym Mharc Bryngarw ddydd Sadwrn 3 Tachwedd (rhwng 11am rhyd at 4pm) fel rhan o Gydweithfa Grefftau newydd Pen-y-bont ar Ogwr.
Wedi'i lansio fis diwethaf gan dîm datblygu gwledig Reach Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, nod y gydweithfa yw dod â phobl creadigol ynghyd fel eu bod yn gallu datblygu eu talentau crefft, cwrdd â ffrindiau newydd a derbyn hyfforddiant mewn arferion busnes, marchnata digidol a sgiliau eraill.
Bydd aelodau o Gydweithfa Grefftau Pen-y-bont ar Ogwr yn gwerthu ystod eang o eitemau crefft wedi'u gwneud â llaw yn ffair grefftau’r hydref yn ogystal â rhoi arddangosiadau bob awr o 11am.
Bydd llwyth o bethau ar gael i ddiddanu’r plant hefyd fel amser stori ar thema'r hydref a digon o weithgareddau llawn hwyl tra bydd cyfle i brynu lluniaeth yn y caffi.
Mae crefft wedi profi hwb enfawr o ran poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, does dim syndod o ystyried faint o 'entrepreneuriaid hobi' sy'n gwerthu ar-lein y dyddiau hyn.
Nod Cydweithfa Grefftau newydd Pen-y-bont ar Ogwr yw manteisio ar hyn ac mae'n agored i grefftwyr profiadol yn ogystal â dechreuwyr newydd.
Bydd y gydweithfa yn parhau i gynnig cyfleoedd i aelodau arddangos a gwerthu eu gwaith mewn ffeiriau crefft ac arddangosfeydd mewn lleoliadau blaenllaw, marchnadoedd crefft, llwybrau crefft, siopau codi a mwy gyda'r gobaith o sefydlu rhwydwaith lleol o fusnesau crefft, felly cymerwch ran a chadwch eich llygaid ar agor am unrhyw ddigwyddiadau pellach.
Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Mae cyfanswm o bum canolfan grefft wedi'u sefydlu, yn y lleoliadau canlynol: Canolfan Caddt yng Nghorneli, The Ancient Briton yn y Drenewydd, Canolfan Hamdden Dyffryn Garw, yr Eglwys Gymunedol yn Abercynffig a’r Men's Shed yng Nghwm Ogwr.
Mae Cydweithfa Grefftau Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i threfnu gan bartneriaeth rhwng tîm Reach Pen-y-bont ar Ogwr ac Eclipse Gift Wrapping ac mae wedi'i hariannu'n llawn drwy’r Cynllun Cymunedau Gwledig Ffyniannus.
Mae'r prosiect wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
I gael mwy o wybodaeth am Gydweithfa Grefftau Pen-y-bont ar Ogwr a'r ffeiriau crefft sydd ar y gweill neu chwiliwch am 'Bridgend Craft Collective' ar Facebook neu '@BridgendCraft' ar Twitter.