Fandaliaid yn llosgi cyfarpar chwarae plant newydd sbon yng Ngogledd Corneli
Poster information
Posted on: Dydd Llun 23 Ebrill 2018
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i asesu cost y difrod a achoswyd gan fandaliaid a geisiodd ddinistrio cyfarpar maes chwarae newydd sbon ar Heol Las yng Ngogledd Corneli.
Gwnaeth y fandaliaid ddifrodi cyfleusterau hygyrch newydd y parc ac o ganlyniad i hyn, nid yw rhan ohono ar gael ar hyn o bryd.
Mae’r ffyliaid a wnaeth hyn wedi targedu plant ifanc gan eu hatal rhag defnyddio'r cyfleusterau sydd newydd eu gosod a oedd wedi eu haddasu yn arbennig er mwyn i bawb allu eu defnyddio.
Roedd hwn yn beth gwael iawn i’w wneud, hyd yn oed i fandaliaid diegwyddor, ac rwy’n gobeithio y bydd y gymuned leol yn helpu’r awdurdodau i ddwyn y rheini a wnaeth hyn i gyfrif.
Mae’r cyngor wrthi’n asesu maint a chost y difrod, ac yn dymuno diolch i’r heddlu a’r gwasanaeth tân am eu hymateb prydlon i’r ddamwain.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau
Gall trigolion lleol gefnogi ymdrechion Heddlu De Cymru i ddwyn y troseddwyr i gyfrif drwy roi gwybod am unrhyw weithgarwch amheus a welwyd ddydd Sadwrn 14 Ebrill yn Heol Las rhwng 10pm ac 11pm drwy ffonio 101 a dyfynnu rhif cyfeirnod 1800 1300 11.