Ewch yn fananas dros ailgylchu bwyd!
Poster information
Posted on: Dydd Iau 04 Hydref 2018
Mae pawb sy'n gwybod am fananas yn gwybod bod y ffrwyth melyn yn ffynhonnell ardderchog o egni, ei fod yn rhoi hwb i'r meddwl, a bod ganddo ei wisg siwt archarwr amddiffynnol ei hun hyd yn oed.
Ond a oeddech chi'n gwybod bod bananas hefyd yn cynhyrchu egni pan gânt eu hailgylchu?
Caiff yr holl wastraff bwyd a gesglir o gartrefi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei gludo i ffatri dreulio anaerobig Agrivert yn Stormy Down, lle caiff ei droi'n drydan i gyflenwi ein cartrefi a'n cymunedau lleol.
Mae hefyd yn cynhyrchu gwrtaith y gellir ei ddefnyddio gan ffermydd. Ar y llaw arall, os yw gwastraff bwyd yn dod i ddiwedd ei oes mewn safle tirlenwi, mae'n pydru ac yn cynhyrchu methan, sy'n nwy tŷ gwydr niweidiol.
Gellir lleihau ychydig o wastraff bwyd drwy siopa'n ddoeth neu fwyta dognau bwyd mwy synhwyrol eu maint, ond mae croen bananas ymhlith y gwastraff bwyd anochel na ellir ei fwyta. Serch hyn, gellir ei ailgylchu, fel bagiau te, croen ffrwythau a llysiau eraill, plisg wy, ac esgyrn cig.
Mae ailgylchu eich gwastraff bwyd yn hawdd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Defnyddiwch un o'r bagiau gwyrdd i leinio'ch bin cegin bach brown a rhowch eich gwastraff bwyd ynddo. Pan fydd yn llawn, clymwch y bag a'i rhoi yn eich bin ailgylchu bwyd mwy o faint y tu allan, yn barod ar gyfer eich casgliad wythnosol. Cofiwch fod y bin tu allan yn cynnwys dolen y gellir ei chloi er mwyn rhwystro arogleuon a phlâu.
Rydym wedi ymuno ag Ailgylchu dros Gymru'r hydref hwn i godi ymwybyddiaeth o ba mor hawdd yw hi i ailgylchu gwastraff bwyd.
Mae'r mwyafrif o drigolion lleol yn gwneud gwaith ardderchog o ailgylchu eu gwastraff eisoes. Rydym wedi esgyn o'r ail o'r gwaelod i'r ail orau yn y tablau cynghrair ar gyfer ailgylchu yng Nghymru, diolch i drigolion sydd wedi gwneud ymdrech i gadw o fewn ein cyfyngiad o ddwy fag gwastraff bob pythefnos, ac mae'r rhan fwyaf o drigolion yn gyfarwydd ag ailgylchu eu gwastraff bwyd. Ond mae dal lle i wella, felly gwnewch y peth iawn gyda'ch gwastraff.
Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Gellir ailgylchu'r fanana ddinod yn ynni adnewyddadwy i redeg pob math o bethau…
- Gallai 50 o grwyn bananas wedi'u hailgylchu redeg eich cawod foreol am bum munud.
- Pe bai pawb ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ailgylchu croen un fanana, byddai'n cynhyrchu digon o ynni i oleuo Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl am bron i bedwar diwrnod!
- Angen caffein i'ch cael chi drwy'r bore? Mae ailgylchu crwyn dim ond wyth banana yn creu digon o ynni i ferwi'r tegell ar gyfer eich paned boreol.
- Gall ailgylchu crwyn 30 o fananas greu digon o ynni i redeg sychwr gwallt am ddeng munud, hen ddigon o amser i'ch paratoi chi ar gyfer y diwrnod.
- Pe bai pawb ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ailgylchu croen un fanana, byddai'n creu digon o ynni i oleuo ysgol leol am 36 o oriau!
Gall unrhyw drigolion nad ydynt â biniau ailgylchu bwyd eisoes ofyn am rai ar-lein yn Bridgend.Kier, neu drwy ffonio 01656 643643, neu drwy anfon e-bost i recyclingandwaste@bridgend.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu bwyd, ewch i wefan Ailgylchu dros Gymru