Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ewch i’r goedwig i fod yn rhan o ddigwyddiadau gwirfoddoli yn y cefn gwlad ym Mhen-y-bont ar Ogwr

A ydych yn hoff o’r awyr agored ac yn mwynhau cwrdd â phobl newydd? Os felly, beth am ymuno â thîm cefn gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar un (neu bob un!) o’i ddigwyddiadau gwirfoddoli i reoli coetir y mis hwn.

Cynhelir y digwyddiadau gwirfoddoli yn y Gwarchodfeydd Natur Lleol canlynol ledled Pen-y-bont ar Ogwr:

Coedwig Tremaen, Bracla (CF31 2NL) am 10am ar 9 Chwefror
A wyddoch chi… Mae Coedwig Tremaen yn goetir llydanddail cymysg ar iseldir sydd wedi ei lleoli yng nghanol datblygiad tai Bracla. Dewch i fwynhau hafan wledig sy’n hawdd ei chyrraedd, a fydd yn rhoi seibiant i chi o brysurdeb bywyd cyfoes. Mae Coedwig Tremaen yn addas i deuluoedd ac yn lleoliad delfrydol i blant anturio ar y llwybrau troellog sydd yno.

Coedwig Pwll y Broga, Y Pîl (CF33 6BL) am 10am ar 2 Chwefror ac 16 Chwefror
A wyddoch chi… Mae Coedwig Pwll y Broga yn drysor cudd! Mae’n lle gwych i fynd am dro byr gyda’r teulu a byddwch yn teimlo fel eich bod yng nghanol cefn gwlad Cymru, er bod y coetir drws nesaf i ystâd ddiwydiannol! Coetir cymysg derw ac ynn ydyw yn bennaf, ond mae pwll a mannau gwlyptir yno hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau gwirfoddoli, ffoniwch Brian ar 07824 504819 neu anfonwch neges e-bost i: brian.jones@keepwalestidy.cymru

Gallwch hefyd fynd i wefan Natural Neighbourhoods i gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd gwirfoddoli hyn ac eraill.

Chwilio A i Y