Accessibility links

1
Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Esboniad o’r Cynllun Datblygu Lleol newydd

Richard Matthams yw rheolwr cynllunio strategol a thrafnidiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n arwain y gwaith ar Gynllun Datblygu Lleol newydd yr awdurdod lleol. Yma mae’n ateb 12 cwestiwn ar beth yw’r cynllun datblygu a pham ei fod yn bwysig i’r fwrdeistref sirol ac i bob preswylydd.

1. Beth yw Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)?

Mae’n gynllun sy’n nodi sut y bydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn datblygu yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Mae’n sicrhau bod datblygiadau’n cael eu cyflawni yn yr ardaloedd cywir, gyda ffyrdd, ysgolion a gwasanaethau ategol fel cyfleusterau iechyd, manwerthu, hamdden, cymunedol a mwy.

Mae gan Gynlluniau Datblygu Lleol hyd oes o 15 mlynedd – mae gofyniad cyfreithiol i ni eu hadolygu bob pedair blynedd. Weithiau, gall yr adolygiad hwnnw fod yn broses ailwampio enfawr neu adnewyddiad ysgafn, yn dibynnu ar beth sy’n digwydd yn ystod y pedair blynedd nesaf canlynol. Tra bo adolygiad yn ystyried a yw’r CDLl ar y trywydd cywir, mae’r adolygiad hwn ar gyfer strategaeth lawn newydd, sef CDLl newydd.

2. Faint o amser a gymerir i’w lunio?

Cymerodd saith mlynedd i baratoi’r CDLl diwethaf. Rydym wedi gorfod cwblhau’r un yma mewn tair blynedd a hanner.

3. Pam eu bod yn cymryd cymaint o amser?

Maent yn cwmpasu llawer o faterion, gan gwmpasu tai, cyflogaeth, manwerthu ac yn y blaen.  Mae’n rhaid paratoi sylfaen dystiolaeth helaeth.

Pan fyddwch yn dynodi safle ar gyfer tai, mae yna lawer o wybodaeth dechnegol, o asesiadau trafnidiaeth i astudiaethau seilwaith, sy’n sail i hynny. Y syniad yw sicrhau bod unrhyw ddyraniad yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth gadarn – nid yw’n golygu ni’n dweud ‘dyna safle dymunol’ yn unig. Rydych hefyd yn ddibynnol ar ddatblygwyr yn darparu’r wybodaeth gywir ar eich cyfer, ac yna mae’n rhaid asesu’r wybodaeth honno. Yna, ar y diwedd, mae’n rhaid i’r cynllun fod yn ddarostyngedig i’r broses wleidyddol.

4. Pryd dechreuodd y gwaith ar y CDLl newydd?

Dechreuwyd ar y broses yn 2018. Dylem fod wedi bod yn cynnal ymgynghoriad ar y cynllun adneuo, sef y drafft terfynol, yn gynharach eleni, ond mae’r pandemig wedi achosi oedi – ac rydym yn obeithiol y bydd yn cael ei gynnal ym mis Ionawr.

Rhaid inni adolygu holl sylwadau’r ymgynghoriad cyhoeddus, a’u cyflwyno i’r pwyllgor, er mwyn gwneud newidiadau cyn y gellir ei gefnogi.

5. Pam fod angen cynllun datblygu ar awdurdodau lleol?

Mae ein cynllun presennol yn dod i ben ddiwedd 2021, ac os nad oes gennych gynllun ar waith, mae’n creu gwacter polisi, sy’n darparu cyfle i ddatblygwyr gyflwyno pob math o geisiadau cynllunio. Mae’n golygu ei bod yn anodd iawn eu gwrthod.

Mae pobl bob amser yn mynd i gael plant, a bydd angen rhywle i fyw ar bobl bob amser. Mae angen cefnogi’r twf hwn gyda seilwaith, ac os na fydd hyn yn digwydd, yna byddwch yn cael anrhefn. Nid ydym eisiau gweld datblygiadau anghynaliadwy, heb eu cynllunio.

6. Sut mae lleiniau o dir yn cael eu dewis ar gyfer eu datblygu?

Ar ddechrau’r broses, bydd pob datblygwr, tirfeddiannwr a sefydliad yn cyflwyno eu tir i gael ei ystyried i’w ddatblygu neu ei ailddatblygu. Gelwir y rhain yn safleoedd ymgeisiol, ac mae’r Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol yn gofnod o’r holl safleoedd a gyflwynwyd.

Y cam nesaf yw asesu pob un o’r safleoedd hynny. Rydym yn cynnal arfarniad o gynaliadwyedd ar bob un i weld beth yw ei effaith ar yr amgylchedd. Yna gallwch ddiystyru’r rhain nad oes ganddynt unrhyw obaith, er enghraifft caeau yng nghanol nunlle.

Bydd y safleoedd sy’n weddill yn destun asesiad mwy manwl wedi hynny. Rydym yn edrych ar yr effaith ar y dirwedd a’r amgylchedd, a sut y gallai integreiddio gyda datblygiadau cyfagos. Rydym yn edrych ar y ddarpariaeth addysgol, y seilwaith priffyrdd, uwchgynllun ar gyfer y safle a chyfraniadau ehangach Adran 106, er nad ydych bob amser yn gwybod beth yw’r rhain ar ddechrau’r broses.

Mae’n bosibl y bydd angen seilwaith newydd ar y safle, cylchfannau newydd ac yn y blaen. Ar y cam hwn byddwch yn dechrau cysylltu â darparwyr statudol eraill, megis y GIG, i ganfod beth fyddai effaith hyn ar wasanaethau presennol – er enghraifft, y bwrdd iechyd sy’n penderfynu a oes angen mwy o bractisau meddygon teulu.

Fel arfer, byddwn yn dyrannu lleiniau o dir ar gyfer deg tŷ neu fwy, ond yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw hyrwyddo safleoedd strategol mawr, a fydd yn dod gyda’u hysgol a’u gwasanaethau eraill eu hunain i bob pwrpas.

Bydd y safleoedd sy’n llwyddo ym mhob un o’r camau hynny yn cael eu cynnwys yn y drafft terfynol o’r CDLl, a elwir yn CDLl adneuo.

7. Ar ba gam y bydd yr adeiladwyr tai mawr yn dangos diddordeb?

Weithiau bydd pobl yn hyrwyddo eu safleoedd eu hunain neu gall cwmni gymryd opsiynau ar lain o dir lle bydd yn cytuno ar bris gyda’r tirfeddiannwr, ac yna bydd yn cael ei hyrwyddo gan adeiladwr tai mawr neu adeiladwr tai rhanbarthol llai.

8. Lle y bwriedir adeiladu’r tai/datblygiadau newydd?

Fel rhan o’r CDLl, rydym yn creu strategaeth o ardaloedd twf – y prif safleoedd lle’r ydym yn credu y dylid lleoli datblygiadau yn y fwrdeistref sirol. Mae hyn yn canolbwyntio’n eang ar aneddiadau mawr er mwyn cael mynediad at waith, ysgolion a seilwaith. Fel rhan o’r cam asesu, mae’r safleoedd ymgeisio yn cael eu hasesu yn erbyn y strategaeth twf honno.

Bwriedir datblygu’r datblygiadau newydd dros y 15 mlynedd nesaf o amgylch y prif aneddiadau, sef Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Pencoed a’r Pîl, gyda rhywfaint o dwf adfywio ym Maesteg ac yna safleoedd llai, sy’n gymesur â’r ardaloedd lle maent wedi’u lleoli.

9. Faint o dai sy’n cael eu cynllunio yn ystod oes y cynllun?

Mae cyfanswm o 7,575 o gartrefi yn cael eu cynllunio ar gyfer y 15 mlynedd nesaf. Fodd bynnag, oherwydd bod safleoedd tir llwyd sydd â chaniatâd cynllunio eisoes a fydd yn cael eu datblygu yn y blynyddoedd nesaf, mae’r gofyniad dyraniad sy’n weddill ar gyfer tua 3,000 o gartrefi newydd yn ystod y 15 mlynedd nesaf, sy’n gyfwerth â 200 o gartrefi’r flwyddyn – sy’n sylweddol is na’r lefel o dai a adeiladwyd yn ystod y degawdau diwethaf.

Mae pobl yn aml yn tybio y bydd datblygiadau, ar ôl iddynt gael eu cynnwys yn y cynllun, yn cael eu hadeiladu’n awtomatig – nid yw hyn yn wir. Maent i gyd yn cymryd blynyddoedd ac mae nifer o resymau pam y bydd oedi posibl, sy’n amrywio o ddadleuon gyda pherchennog y tir i faterion hyfywedd.

Yn draddodiadol, mae safleoedd tir llwyd lle byddai hen ffatrïoedd wedi’u lleoli yn eithaf anodd eu datblygu oherwydd deunyddiau diwydiannol sydd wedi’u claddu yn y ddaear, sy’n cymryd cryn amser i’w datrys.

Mae’r nifer gwirioneddol o dai newydd neu safleoedd newydd y mae angen i ni eu darparu yn fach iawn. Mae’r ffigurau tai yn seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth cyffredinol.

10. Faint o swyddi fydd yn cael eu creu o ganlyniad i’r CDLl?

Pan fyddwch yn cynllunio ar gyfer twf tai newydd, mae’n rhaid i chi alinio hyn â’r twf mewn swyddi newydd. Mae’n rhaid i ni greu sylfaen dystiolaeth helaeth iawn ar gyfer cyflogaeth sy’n edrych ar dwf swyddi yn y fwrdeistref sirol lle bydd sectorau preifat newydd wedi’u lleoli, ac rydym hefyd yn gorfod adolygu ystadegau safleoedd cyflogaeth presennol.

Nid yn unig mae’r cynllun datblygu’n cyflawni’r angen tai, mae’r tai yn cyflawni swyddi yn gyffredinol yn nhermau mwy o wasanaethau, mwy o bobl yn gweithio, pobl yn gweithio yn y diwydiant adeiladu ei hun ac yn y blaen.

Yn ystod cyfnod 15 mlynedd y cynllun, mae’r cynllun yn anelu at helpu i greu ychydig o dan 5,000 o swyddi ychwanegol, sy’n alinio’n gyffredinol â’r twf tai newydd. 
Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr boblogaeth oedrannus – roedd 26 y cant o’r boblogaeth yn 60 oed a hŷn yn 2018, a rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu i 32 y cant erbyn 2033. Mae angen i ni wrthbwyso hynny gyda phobl ifanc.

Bydd busnesau yn chwilio i weld lle mae’r sgiliau a’r gweithlu – maent eisiau aelwydydd medrus sy’n weithgar yn economaidd. Mae angen i ni gadw a denu’r aelwydydd medrus hyn sy’n weithgar yn economaidd am eu bod yn gweithredu fel magnet i gyflogwyr sy’n symud i’r ardal.

Ac nid yw hyn yn unigryw i Ben-y-bont ar Ogwr – mae poblogaeth llawer o drefi rhanbarthol fel Pen-y-bont ar Ogwr yn gostwng oherwydd bod pobl yn symud i le mae’r swyddi. Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eithaf ffodus oherwydd mae wedi’i lleoli rhwng Abertawe a Chaerdydd, ond mae’n rhaid i chi gael y gwasanaethau a’r tai ar gyfer pobl iau a’u teuluoedd. Ar ôl iddynt symud i ardaloedd eraill lle mae swyddi a thai, rydych yn dechrau gweld dirywiad wedi’i reoli, sy’n datblygu i fod yn ddirywiad parhaol pan fydd siopau a busnesau yn cael eu gorfodi i gau oherwydd diffyg galw. 

11. Pam ei bod yn bwysig i breswylwyr edrych ar y CDLl a lleisio eu barn yn y misoedd nesaf?

I bob pwrpas, dechrau’r broses yw’r CDLl a diwedd y broses yw pan fydd y cais cynllunio’n cael ei gyflwyno gerbron y pwyllgor rheoli datblygu.

Yn ystod y broses CDLl, nid yw pobl yn cyfranogi ar y cyfan, oni fydd yn effeithio’n uniongyrchol arnynt hwy. Ond pan fydd mewn grym, y CDLl sy’n sefydlu egwyddorion y safle.

Y cais cynllunio yw pan fyddwch yn derbyn manylion lleoliad pob llain. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwrthwynebu ar y cam cynllunio i egwyddor datblygiad, ond erbyn hynny mae’n rhy hwyr, am ei bod yn y CDLl. Y cyfan y gallant ei wneud yw gwrthwynebu i gynllun y datblygiad neu a oes seilwaith digonol yn cael ei ddarparu.

12. ut gall pobl leol leisio eu barn ar ba safleoedd sy’n cael eu dewis?

Dewisir safleoedd ar sail tystiolaeth – hynny yw, ar wybodaeth dechnegol ac nid ymgysylltiad â’r cyhoedd.

Fodd bynnag, cafodd y cyhoedd gyfle i roi eu sylwadau ar y strategaeth a ffefrir ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, a byddant yn gallu rhoi eu sylwadau ar ddrafft terfynol y cynllun yn fuan.

Os bydd pobl yn gwrthwynebu, mae angen iddynt sicrhau bod ganddynt dystiolaeth i ddangos pam na ddylid defnyddio’r safleoedd hyn i’w datblygu, yn hytrach na’r rheswm syml nad ydynt eisiau twf newydd yn eu hardal hwy.

Mae’r mwyafrif o’r gwrthwynebiadau a dderbynnir yn ymwneud â seilwaith a thagfeydd traffig ar y ffyrdd. Ond yr unig safleoedd y gellir eu cynnwys yn y cynllun yw’r rhai sydd wedi’u hategu gan seilwaith priodol, p’un a yw hynny’n cynnwys uwchraddio’r seilwaith presennol neu seilwaith newydd.

Mae’r cynllun adneuo, neu’r drafft terfynol, yn dangos yr holl ddatblygiadau arfaethedig a dylid ei gyhoeddi ym mis Ionawr ar gyfer ymgynghori arno.

Yn draddodiadol, mae’n cymryd chwe wythnos i ni gynnal yr ymgynghoriad statudol, pan fyddwn yn dilyn proses helaeth, yn ei anfon at yr holl gynghorau plwyf, trefnu arddangosfeydd a mwy. Oherwydd y pandemig, nid ydym yn gwybod a allwn wneud hynny y tro hwn – yn hytrach, rydym yn ystyried cynnal galwadau Skype a threfnu apwyntiadau dros y ffôn pan all pobl drefnu slot i siarad â swyddogion cynllunio ar sail un i un, a byddwn yn gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael mynediad at y ddogfen ar-lein.

I weld dogfen y strategaeth a ffefrir, ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Ffôn: 01656 643643
Oriau agor:

09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.

Chwilio A i Y